Gweithredu cadarnhaol ar dwyll a gwallau mewn fferylliaeth gymunedol ond gallai mwy o ddadansoddi fod yn fuddiol
Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei chael hi’n anodd cyflawni ei ymrwymiad i ehangu’r rhwydwaith o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig a’u cysylltu’n well
Cyfarwyddwr Archwilio – Archwiliad Perfformiad Rydym yn dymuno recriwtio Cyfarwyddwr Archwilio sy’n bennaf gyfrifol am bortffolio o waith archwilio perfformiad cenedlaethol a/neu leol sy'n cynnwys gwerth am arian a chymhwyso'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Os ydych chi'n angerddol am atebolrwydd a gwella mewn gwasanaethau cyhoeddus, eisiau gweithio gyda phobl wych, ac yn gallu ysbrydoli a grymuso eraill, dyma'r swydd i chi.
Kate Havard Yn syth o'r brifysgol, ymunodd Kate â Chyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr fel Hyfforddai Archwilio Mewnol a dechreuodd ei hastudiaethau cyfrifyddu. Yn 2004, ymunodd Kate â'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol yng Nghymru ac ymunodd ag Archwilio Cymru ar ei ffurfio yn 2005. Enillodd Kate statws ACCA yn 2007 a daeth yn arweinydd tîm.
Hyfforddai Graddedig Ydych chi'n gweld eich hun fel arweinydd cyllid yn y dyfodol? Ydych chi'n chwilio am gyfle o’r radd flaenaf wedi'i ariannu'n llawn ar gyfer person graddedig i hyfforddi fel cyfrifydd siartredig? Ydych chi'n angerddol am wella gwasanaethau cyhoeddus? Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddai Graddedig yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano! Fel hyfforddai yn Archwilio Cymru, byddwch yn astudio ar gyfer eich cymhwyster cyfrifeg wrth ymchwilio i sut mae arian y cyhoedd yn cael ei wario, ac a yw'n cael ei wario'n dda.
Heriau Recriwtio a Chadw Adolygiad thematig ym mhob un o'r 22 prif gyngor yn edrych ar eu trefniadau i fynd i'r afael â heriau recriwtio a chadw.