Prentis Gwyddor Data

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ynglŷn â’r rôl

Mae Archwilio Cymru yn edrych am Brentis Gwyddor Data.

Ydych chi'n cael eich sbarduno gan niferoedd, tueddiadau a graffiau? Oes gennych chi ddiddordeb mewn codio cyfrifiadurol? Hoffech chi gael y cyfle i ennill tra byddwch chi'n dysgu?

Os yw'r ateb yn gadarnhaol i unrhyw un o'r uchod, gallai'r Brentisiaeth Gwyddor Data yn Archwilio Cymru fod yn berffaith i chi.

Mewn byd sy'n cael ei lywio fwyfwy gan ddata, gallai prentisiaeth mewn gwyddor data eich gosod ar wahân i'r gystadleuaeth yn eich gyrfa yn y dyfodol.