Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Cynllunio Cyfalaf mewn Cynghorau yng Nghymru
Gwnaethom edrych ar sut mae cynghorau yn cynllunio eu gwariant cyfalaf. Gwnaethom ganolbwyntio ar raglen cyfalaf blynyddol a strategaethau cyfalaf cynghorau. Gwnaethom ystyried pa mor hyddysg yw’r cynlluniau hyn ac a ydynt yn nodi’n glir eu canlyniadau arfaethedig. Gwnaethom edrych hefyd i weld a ydynt yn ystyried pethau megis cyflwr cyfredol yr asedau a’r adnoddau sydd ar gael i’w cyflawni. Gwnaethom edrych hefyd ar ba mor dda y mae cynghorau yn hysbysu cynghorwyr am eu gwariant cyfalaf er mwyn helpu i sicrhau bod goruchwyliaeth effeithiol.
Gwnaethom gynllunio ein gwaith i ddarparu golwg cyffredinol o’r modd y mae cynghorau yn cynllunio eu gwariant cyfalaf. Gwnaethom edrych hefyd am unrhyw faterion cyffredin y gall cynghorau a Llywodraeth Cymru eu hystyried. Gwnaethom ddefnyddio ein canfyddiadau i lywio ein hargymhellion i wella’r gwerth am arian y mae cynghorau yn ei gyflawni o’u gwaith cynllunio cyfalaf.
Nid ydym yn edrych ar gymeradwyo na chynnydd prosiectau cyfalaf unigol, gan mai penderfyniadau polisi i gynghorau eu gwneud yw’r rhain. Am yr un rheswm, ni wnaethom asesu cynnwys rhaglenni cyfalaf cynghorau, na rhinweddau eu nodau a’u huchelgeisiau.
Mae cynghorau yn darparu nifer sylweddol o asedau newydd bob blwyddyn ar gyfer eu hardaloedd. Mae gwariant cyfalaf yn galluogi cynghorau i ddarparu amrywiaeth o wasanaethau i breswylwyr. Mae’n talu am yr adeiladau a’r tir a ddefnyddir i gynnal gwasanaethau, a’r offer a ddefnyddir i ddarparu’r gwasanaethau hynny. Felly, gwariant sy’n darparu’r lleoedd, y mannau a’r offer i gynghorau ddarparu gwasanaethau i breswylwyr ydyw.
Cyfeiriwn at ganlyniadau gwariant cyfalaf fel asedau. Gan fod cynghorau yn darparu amrywiaeth eang o wasanaethau, gall y math o asedau a brynir neu a adeiledir amrywio’n sylweddol. Gall cynghorau fod yn berchen ar asedau i ddarparu gwasanaethau sy’n ofynnol yn ôl y gyfraith, megis ysgolion, tai, neu lyfrgelloedd. Gallant fod yn berchen hefyd ar asedau i ddarparu gwasanaethau dewisol, megis canolfannau siopa, canolfannau hamdden, neu theatrau. Felly, mae gwariant cyfalaf yn dylanwadu ar y costau a’r incwm sydd ar gael i gynghorau. Mae’n allweddol gwneud hyn yn iawn fel bod cynghorau yn sicrhau gwerth am arian.
Ar hyn o bryd, mae cynghorau yn wynebu heriau ariannol sylweddol sy’n gwneud cyflawni prosiectau cyfalaf yn anodd. Mae’n golygu hefyd fod cyflawni gwerth am arian yn enwedig o bwysig. Rydym yn cydnabod bod costau gwariant cyfalaf yn anodd eu cydbwyso â gwariant o ddydd i ddydd (a elwir yn wariant refeniw). Gall costau gynnwys costau llog benthyca arian neu gyfrannu at brosiectau o gyllidebau refeniw. Yn aml, gall gwariant refeniw helpu cynghorau i gyflawni rhai heriau’n gyflymach, gan gynnwys helpu i reoli’r galw am wasanaethau. Yn nodweddiadol, gall prosiectau cyfalaf gymryd mwy o amser i’w cwblhau, a all eu gwneud yn anoddach eu cyfiawnhau wrth wynebu galw cynyddol am wasanaethau o ddydd i ddydd.
Fodd bynnag, gallai peidio â gwario arian ar gynlluniau cyfalaf arwain at gostau uwch dros amser. Er enghraifft, oherwydd costau cynnal a chadw uchel ar asedau hŷn yn hytrach nag adeiladu rhai newydd. Hefyd, gall chwyddiant mewn costau adeiladu olygu yr oedir costau gwariant yn fwy yn yr hirdymor. Gall olygu canlyniadau gwaeth hefyd os nad yw asedau cyfredol yn addas mwyach ar gyfer darparu gwasanaethau modern. Hefyd, gall hyn i gyd olygu costau uwch yn y dyfodol a rhoi pwysau ychwanegol ar sefyllfaoedd cyllidebol sydd eisoes yn heriol i gynghorau.
Mae cyflawni’r cydbwysedd hwn yn iawn yn anodd, ond mae’n bwysig er mwyn sicrhau gwerth am arian yn awr ac yn y tymor hwy. Rydym yn cydnabod ei bod yn anodd i gynghorau daro’r cydbwysedd hwn.
Mae gan gynghorau hanes hir o gyflawni prosiectau cyfalaf arwyddocaol ac maent wedi gweithio’n galed i gynnal asedau yn wyneb pwysau ariannol cynyddol. Rydym yn cydnabod yr amgylchedd anodd y mae cynghorau yn gweithredu ynddo. Yn y cyd-destun hwn, gobeithiwn y bydd yr adroddiad hwn yn helpu cynghorau i fyfyrio ar eu trefniadau eu hunain ac i nodi cyfleoedd am welliannau pan fo hynny’n berthnasol.
Ar y cyfan, rydym wedi nodi rhai meysydd lle y credwn y gallai cynghorau fyfyrio ar y modd y gallent wella’r ffordd y maent yn cynllunio eu gwariant cyfalaf. Mae rhai o’r materion a nodwyd gennym yn ymwneud â’r modd y mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu cyllid cyfalaf. Canfuom yr hyn a ganlyn:
Rydym yn argymell bod cynghorau yn adolygu eu gwaith cynllunio cyfalaf o’i gymharu â’n rhestr wirio. Mae’r rhestr wirio yn nodi agweddau allweddol ar gynllunio cyfalaf cadarn, ac mae’n cael ei llywio gan ein meini prawf archwilio. Yn rhan o hyn, rydym wedi argymell bod cynghorau yn canolbwyntio ar hyfforddiant i gynghorwyr wrth ymgymryd â gwaith cynllunio cyfalaf, gan sicrhau bod gwybodaeth am gyflwr asedau yn gyfredol, ac asesu effeithiolrwydd prosiectau cyfalaf yn rheolaidd.
Rydym hefyd yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei phrosesau ynghylch dyfarnu cyllid grant cyfyngedig.