Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Edrychwch ar ein gwaith o amgylch y pandemig COVID-19
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae cael rhaglen archwilio strategol, deinamig ac o ansawdd uchel yn ffocws allweddol i'n strategaeth
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru
Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio'r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:
Rydym hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosibl i ddeall.
Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i'w defnyddio os oes gennych anabledd.
Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn hygyrch yn llwyr.
Mae rhestr llawn yn yr adran 'diffyg cydymffurfio' isod.
Mae llawer o'r materion hyn bellach yn cael eu datrys. Caiff y rhan fwyaf eu cywiro erbyn Ebrill 2024 a'n nod yw adolygu a gwella pob tudalen ar y wefan erbyn diwedd 2024.
Os ydych yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu os ydych yn credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â: gwybodaeth@archwilio.cymru
Os ydych angen gywbodaeth sydd ar y wefan hon mewn fformat wahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, neu mewn iaith wahanol:
E-bost: gwybodaeth@archwilio.cymru
Ffôn: 029 2032 0500
Nodwch:
Byddwn yn ystyried eich cais ac yn dod yn ôl atoch o fewn 5 diwrnod.
Byddwn yn gwneud ein gorau i fynd i'r afael â'ch gofynion hygyrchedd yn unol â’n Polisi Addasiadau Rhesymol.
Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus â'r ffordd rydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).
Mae Archwilio Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) 2018 (Rhif 2).
Mae’r wefan yma yn cydymffurfio’n rhannol gyda Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We 2.1 safon AA o ganlyniad i’r diffyg cydymffurfiaeth ac eithriadau wedi’u rhestru isod.
Mae'r cynnwys a restrir isod yn di-hygyrch am y rhesymau canlynol.
Nid oes gan rai delweddau ddewis testun amgen oherwydd newid diweddar i'r arddull y gwefan, felly ni all pobl sy'n defnyddio darllenydd sgrin gael mynediad at y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant 1.1.1 WCAG 2.2 (cynnwys nad yw'n destun).
Bwriadwn ychwanegu dewisiadau testun amgen ar gyfer pob delwedd erbyn mis Ebrill 2024. Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn cyrraedd safonau hygyrchedd.
Nid yw’r eicon offer hygyrchedd yn y gornel dde isaf yn hygyrch wrth ddefnyddio’r bysellfwrdd. Nid yw’r ffocws bysellfwrdd yn weladwy ar ôl tabio o’r chwyddwydr. Rydym yn bwriadu trwsio’r rhain erbyn mis Ebrill 2024.
Rhaid cynnwys elfennau mewn a neu <ul> <ol>. Mae hyn yn cyfeirio at y botwm Cymraeg yng nghornel uchaf y dudalen we. Rydym yn bwriadu trwsio hyn erbyn mis Ebrill 2024.
Rhaid i ddolenni fod â thestun dealladwy. Mae hyn yn cyfeirio at y chwyddwydr a’r eiconau cyswllt cyfryngau cymdeithasol. Rydym yn bwriadu trwsio hyn erbyn mis Ebrill 2024.
Nid oes gan y dolenni tag yn y ddau gerdyn ‘Ar y Gweill’ ar y dudalen gartref ddigon o gyferbyniad lliw. Rydym yn bwriadu trwsio hyn erbyn mis Ebrill 2024.
Efallai y na fydd rhannau o’n gwefan yn ymddangos fel y dylai ar fersiynau 6, 7 ac 8 o Internet Explorer. Nid yw Microsoft yn cefnogi’r fersiynau hyn mwyach. Rydym yn argymell eich bod yn uwchraddio i fersiwn diweddaraf neu drio porwr gwahanol os ydych yn profi unrhyw broblemau.
Efallai y bydd angen defnyddio meddalwedd trydydd parti ar rai rhannau o'n gwefan. Gall ein gwefan hefyd gynnwys hyperddolenni i wefannau trydydd parti allanol er hwylustod i chi. Nid oes gennym reolaeth dros y cynnwys a gyhoeddir ar wefannau trydydd parti na'u cynnyrch. Cyfeiriwch at wefan y darparwr am wybodaeth cymorth.
Dim ar hyn o bryd.
Nid yw llawer o ddogfennau ar ein gwefan ar gael mewn modd hygyrch gan gynnwys testun amgen a strwythur dogfennau coll.
Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio PDFs na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 [agorir mewn ffenestr newydd] os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu trwsio dogfennau hynach na'r 23 Medi 2018.
Bydd unrhyw ddogfennau PDFs neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.
Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideo byw wedi'i eithrio rhag bodloni'r rheoliadau hygyrchedd [agorir mewn ffenestr newydd].
Yn ddiweddar, rydym wedi diweddaru ein gwefan i fersiwn diweddarach o Drupal ar ôl i'r fersiwn blaenorol gyrraedd diwedd ei hoes. Rydym hefyd wedi ailwampio arddull ein gwefan i ddarparu gwell profiad defnyddiwr.
Oherwydd y diweddariadau hyn, nid ydym eto wedi datrys y materion hyn oherwydd, ar y pryd, roeddent yn faich anghymesur o ran cost ac adnoddau.
Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo cynhwysiant digidol, gan gynnwys drwy fodloni meini prawf Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We lefel 2.1 AA (WCAG 2.0) [agorir mewn ffenestr newydd].
Ar hyn o bryd rydym yn gwella ein safle (prawf) beta newydd i gwrdd â WCAG 2.1 AA. Byddwn yn cwblhau'r gwaith hwn yn ystod gwanwyn 2024.
Paratowyd y datganiad hwn ar 2 Medi 2020. Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 12 Mawrth 2024.
Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 13 Hydref 2023 yn erbyn safon WCAG 2.1 AA.
Cynhaliwyd y prawf gan Wasanaeth Digidol y Llywodraeth.
Profwyd sampl o dudalennau gan ein tîm wefan yn defnyddio offer profi awtomataidd. Rydym wedi ymgorffori'r elfennau o adroddiad Gwasanaeth Digidol y Llywodraeth a gawsom yn ddiweddar.
Gallwch ddarllen yr adroddiad hygyrchedd lawn [agorir mewn ffenestr newydd].
Rydym hefyd wedi cynnal ein harchwiliad hygyrchedd ein hunain o’n gwefan gan ddefnyddio offer gwerthuso hygyrchedd ar-lein WAVE and Axe.