Gweithio ag eraill

Mae Archwilio Cymru hefyd yn gweithio gydag eraill i gynyddu manteision gwaith archwilio. 

Mae hyn yn cynnwys:

Fforwm Archwilio Cyhoeddus

Mae hwn yn dod â sefydliadau archwilio cyhoeddus y DU ynghyd ar gyfer datblygu gwaith archwilio’r sector cyhoeddus.

Menter Twyll Genedlaethol 

Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn defnyddio ei bwerau paru data statudol i gynnal y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru – rhaglen yn y DU sy’n paru data ar draws sefydliadau i nodi twyll a gwallau.

Cyfnewid Arfer Da

Rhaglen sydd wedi’i chynllunio i helpu cyrff cyhoeddus i rannu mewnwelediadau a dysgu oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys digwyddiadau, gweminarau a chynhyrchion digidol eraill.

Cyrff adolygu allanol 

Rydym yn ymgysylltu ac yn cydlynu ein gwaith gyda chyrff arolygu, comisiynwyr a Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.