Amdanom ni
Ein nod yw:
- Sicrhau pobl Cymru bod arian Cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda
- Egluro sut mae arian Cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio i ddiwallu anghenion pobl
- Ysbrydoli a grymuso’r sector Cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Archwilio Cymru yw’r nod masnach ar gyfer ein dau endid cyfreithiol: Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru.
Mae gan y naill ei bwerau a dyletswyddau penodol:
- Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn archwilio ac yn adrodd ar gyrff cyhoeddus Cymru.
- Mae Swyddfa Archwilio Cymru yn darparu staff ac adnoddau eraill ar gyfer gwaith yr Archwilydd Cyffredinol, ac yn monitro a chynghori’r Archwilydd Cyffredinol.
Ewch i’n tudalen ein gwaith am fanylion ar ein rhaglen waith gyfredol.