Archwilydd Cyffredinol Cymru

Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Mae hyn yn golygu ei fod yn archwilio cyfrifon cynghorau sir a chynghorau bwrdeistrefi sirol, yr heddlu, awdurdodau tân ac achub, parciau cenedlaethol a chynghorau cymuned, yn ogystal â Llywodraeth Cymru, ei chyrff cyhoeddus a noddir ganddi a chyrff cysylltiedig, Comisiwn y Senedd a chyrff y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rôl yr Archwilydd Cyffredinol yn cynnwys archwilio sut mae cyrff cyhoeddus yn rheoli ac yn gwario arian cyhoeddus, gan gynnwys sut y maent yn sicrhau gwerth am arian wrth gyflawni gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi adroddiadau ar y gwaith hwnnw, gyda rhai ohonynt yn cael eu hystyried gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus Senedd Cymru. Bob blwyddyn, mae hefyd yn adrodd ar i ba raddau mae awdurdodau lleol unigol yn cynllunio ar gyfer gwella.

Fe grëwyd swydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn 2005 ac mae deiliad presennol y swydd, Adrian Crompton, wedi bod yn gwneud y gwaith ers 21 mis Gorffenaf 2018.  Gall unigolyn ddal y swydd am hyd at wyth mlynedd.

 

Gweler Hefyd: Pwy yw pwy?