Gwaith wedi'i gomisiynu

Ein prif gryfder yw’r amrywiaeth eang o sgiliau a gwybodaeth sy’n deillio o’n profiad fel archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru. Cryfder sy’n golygu ein bod mewn sefyllfa ddelfrydol i helpu sefydliadau eraill i gyflawni gwasanaethau cyhoeddus yn fwy effeithiol ac effeithlon.

Trwy ein gwaith yma yng Nghymru a thu hwnt, rydym wedi llwyddo i gael profiad amhrisiadwy. Mae hyn, yn ogystal â’n ffordd o gyflawni archwiliadau ariannol, llywodraethu a pherfformiad, yn golygu ein bod yn gallu cynnig dull unigryw i gyrff cyhoeddus eraill er mwyn eu helpu i wella. 

Mae’r gwaith a gomisiynir yn cynnwys:

  • Gwaith archwilio â barn
  • Gwerth am arian/gwaith prosiect 
  • Gwaith adolygu llywodraethu 
  • Cefnogi meithrin gallu 
  • Archwiliad TG 
  • Prosiectau ac adolygiadau ad hoc 
  • Archwiliadau grant a chydymffurfio

I wybod mwy am sut all Archwilio Cymru helpu’ch sefydliad chi, cysylltwch â e-bostiwch post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.