Fel corff cyhoeddus, rydym yn gyfrifol am wario ein harian, ac am weithredu ein busnes, yn ddoeth ac yn ddidwyll.
Rydym yn cymryd y cyfrifoldeb hwn o ddifrif. Er mwyn rhoi sicrwydd i drethdalwyr, rydym yn destun craffu annibynnol mewn nifer o ffyrdd.
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Bob blwyddyn, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn cyflwyno amcangyfrif o incwm a chostau Swyddfa Archwilio Cymru ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf i’w cymeradwyo gan y Cynulliad Cenedlaethol.
Mae'r amcangyfrif diweddaraf o incwm a chostau, ynghyd ag adroddiad blynyddol a chyfrifon yr Archwilydd Cyffredinol, ar gael o dan Ein Cynlluniau a Chyfrifon.