Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Mae ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub
Mae gyrfa gyda ni yn cynnig diwylliant croesawgar sy'n cefnogi cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd, a chyfleoedd i ddatblygu
Gweld ein swyddi diweddaraf
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae’r Archwilydd Cyffredinol yn gyfrifol am archwilio’r rhan fwyaf o arian cyhoeddus sy’n cael ei wario yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys cyllid a bleidleisir amdano gan y Cynulliad Cenedlaethol bob blwyddyn. Mae Llywodraeth Cymru yn dyrannu rhan helaeth o’r cyllid yma i’r GIG a llywodraeth leol.
Rydyn ni’n cyrraedd mwy na 800 o gyrff cyhoeddus, gan archwilio bron i 30 biliwn o bunnoedd o incwm a gwariant bob blwyddyn. Mae hyn yn cynnwys, ymhlith eraill:
Archwilio ariannol yw asgwrn cefn atebolrwydd cyhoeddus.
Bob blwyddyn, rhaid i gyrff cyhoeddus yng Nghymru baratoi cyfrifon yn dangos sut maent wedi defnyddio arian cyhoeddus. Rhaid i gyfrifon y llywodraeth ganolog a chyrff y GIG ddangos bod cyllid wedi’i ddefnyddio’n briodol (yn rheolaidd) yn unol â bwriadau’r Senedd.
Mae Archwilio Cymru yn archwilio’r cyfrifon hyn yn annibynnol ac yn cyhoeddi barn archwilio ffurfiol – yn y bôn barn broffesiynol ynghylch a yw’r ffigurau’n dangos darlun teg o sut y gwariwyd yr arian.
Os canfyddir problemau, caiff y rhain eu nodi’n glir yn yr adroddiad archwilio fel y gall pwyllgor archwilio’r corff, Pwyllgor Archwilio Cyhoeddus y Senedd a’r cyhoedd yn gyffredinol graffu arnynt.
Archwilio perfformiad yw lle bydd Archwilio Cymru yn archwilio materion ehangach ynghylch darpariaeth a pherfformiad gwasanaethau cyhoeddus.
Gallai ein gwaith archwilio unrhyw beth o sut mae’r GIG yn rheoli rhestrau aros i sut mae cynghorau yn cynllunio gwariant cyfalaf neu sut mae Llywodraeth Cymru yn rheoli ei phrif raglenni polisi a phrosiectau.
Rydym hefyd yn edrych ar ba raddau y mae cyrff a archwiliwyd yn gweithredu yn unol ag egwyddor datblygu cynaliadwy Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 wrth osod a dilyn amcanion llesiant.
Trwy ein gwaith rydym yn dod ar draws arferion da ac yn rhannu hyn trwy ein Cyfnewidfa Arfer Da a chyfryngau eraill, gan gynnwys digwyddiadau dysgu ar y cyd ac adnoddau.
Gallwch gael mwy o wybodaeth amdanom a sut ydym yn gweithio â sefydliadau eraill ar adroddiadau ar y cyd.