Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Be proud of where you work. Enjoy what you do.
Nid oes angen gradd cyfrifyddu na Safon Uwch mewn mathemateg arnoch i ddechrau ar eich taith fel archwilydd. Yr hyn sy'n hanfodol yw angerdd gwirioneddol dros weithio yn y sector cyhoeddus a diddordeb mewn cyfrifyddu.
Trwy ymuno â'n rhaglen, byddwch yn gallu cyfuno profiad archwilio ymarferol gyda hyfforddiant tuag at gymhwyster ACA a gwobr arweinyddiaeth ILM Lefel 3. Rydym wedi ymrwymo i'ch helpu chi i feithrin arbenigedd a hyder gyda dysgu ymarferol a chefnogaeth broffesiynol bob cam o'r ffordd. Byddwch yn ennill profiad ystyrlon ym maes archwilio ariannol a pherfformiad, gan wneud gwahaniaeth diriaethol i bobl Cymru.
Mae eich gyrfa fel archwilydd yn dechrau o'r diwrnod cyntaf. Ochr yn ochr â'ch hyfforddiant proffesiynol, byddwch yn gweithio fel rhan o'n timau archwilio, gan ennill profiad ymarferol gyda chleientiaid - boed hynny yn eu swyddfeydd, ar-lein o gartref, neu o un o'n swyddfeydd ein hunain. Rydym yn chwilio am unigolion dyfeisgar a gwydn sy'n ffynnu ar amrywiaeth.
Byddwch yn ymgymryd ag ystod o dasgau archwilio ariannol, gwirio cywirdeb data a chwestiynu unrhyw anghysondebau trwy ryngweithio yn aml â thimau cyllid cleientiaid a gweithwyr proffesiynol eraill. Bydd eich hyfforddiant ICAEW yn cael ei gefnogi gan sesiynau technegol mewnol, gan eich paratoi i ymdrin ag archwiliadau cynyddol gymhleth.
Mae ein rhaglen hyfforddi yn cynnig amlygiad i ystod amrywiol o gleientiaid, gan gynnwys Llywodraeth Cymru a chyrff noddedig, byrddau iechyd, awdurdodau lleol, a'r Gwasanaeth Tân ac Achub. Er y bydd eich prif bwyslais ar archwiliadau ariannol, byddwch hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at waith ardystio grantiau, dadansoddeg data, a phrosiectau llywodraethu. Mae hyfforddeion hefyd yn treulio amser yn gweithio yn ein timau archwilio perfformiad, a gall y rhai sy'n dangos dawn ennill profiad pellach yn y maes hwn wrth iddynt symud ymlaen trwy eu cymhwyster ICAEW.
Maent yn cynnig y cyfle unigryw ar gyfer secondiad mewn sector cyhoeddus arall neu sefydliad a ariennir yn gyhoeddus. Mae hyn nid yn unig yn gadael i chi brofi diwylliant sefydliadol gwahanol ond hefyd yn eich helpu i adeiladu sgiliau cyllid ochr yn ochr â'ch arbenigedd archwilio.
Er mwyn cefnogi eich datblygiad, byddwch yn cael eich paru â rheolwr llinell dan hyfforddiant profiadol, a fydd yn gweithredu fel eich cwnselydd myfyrwyr ICAEW, a bydd gennych hefyd ffrind i'ch helpu i ymgartrefu a darparu arweiniad wrth i chi dyfu'n bersonol ac yn broffesiynol. Fe welwch ddigon o anogaeth gan hyfforddeion eraill, ac rydym yn hyrwyddo cefnogaeth a hyfforddi gan gymheiriaid yn ein carfannau dan hyfforddiant. Wedi'r cyfan, does neb yn deall y daith yn well na'r rhai sy'n ei phrofi ochr yn ochr â chi neu sydd eisoes wedi bod trwy'r rhaglen.
Mae cyflawni cymhwyster proffesiynol yn agor cyfleoedd di-ri. Mae'r ICAEW yn fawreddog, ac mae'r arholiadau'n heriol, yn gofyn am ymrwymiad a disgyblaeth. Os ydych chi'n barod i fuddsoddi yn eich datblygiad – gan gynnwys gwneud ymdrech ychwanegol yn ystod nosweithiau a phenwythnosau i ategu'r hyfforddiant gan ein darparwr hyfforddiant – bydd eich ymroddiad yn dod â gwobrau hirdymor sylweddol. Gallai hyn fod yn un o'r buddsoddiadau gorau rydych chi'n ei wneud yn eich dyfodol.
Rhaglen hyfforddai graddedigion 4 blynedd i'r rhai sydd â gradd. Isafswm cymhwysedd ar gyfer y rhaglen yw:
Rhaglen hyfforddeion 5 mlynedd i'r rhai heb radd. Isafswm cymhwysedd ar gyfer y rhaglen yw: