Menter Twyll Genedlaethol

Ymarfer paru data ledled y DU gyfan yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI). Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus Llywodraeth y DU sy’n arwain y Fenter Twyll Genedlaethol ar lefel y DU ac yn Lloegr, ond fe’i cyflawnir yng Nghymru dan bwerau paru data’r Archwilydd Cyffredinol. Mae data gan gyrff amrywiol yn cael ei gymharu’n electronig i chwilio am anghysonderau a allai fod yn arwydd o dwyll, gordaliadau neu wallau, a helpu i ymdrin â hwy.

Ers iddi ddechrau ym 1996, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol wedi adrodd ar ddeilliannau ar gyfer Cymru sy’n gyfanswm o £65.2 miliwn. Ystyr deilliannau yw’r gwerth ariannol a roddir i achosion o dwyll, gordaliad neu wall a adnabuwyd. Mae’r rheiny wedi cyfrannu at ddeilliannau ledled y DU o oddeutu £3.5 biliwn.

Mae ein hadroddiad ar ganfyddiadau ymarfer 2024-25 y Fenter Twyll Genedlaethol.

Menter Twyll Genedlaethol 2026-27

Gall cyfranogwyr gael rhagor o wybodaeth ar app gwe'r fenter, gan gynnwys:

  • rhestr o gyfrifoldebau'r swyddogion enwebedig yn y corff sy'n cymryd rhan;
  • manylion unrhyw ofynion pellach a ffurflenni'n ymwneud â'r data sydd i'w darparu;
  • ffurflen cydymffurfio diogelu data; a
  • gwybodaeth am sut i ddehongli parau, ac am gydweithrediad rhwng cyrff sy'n cymryd rhan.

Disgwylir i'r data ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) 2026-27 gael ei gyflwyno gan gyfranogwyr ym mis Hydref 2026. Mae gwybodaeth am y manylebau data a'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r data ar gael ar GOV.UK yma:

Mae'r rhestr wirio hon wedi'i chynllunio i helpu'r holl gyrff sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol i hunanwerthuso eu rhan yn y Fenter cyn ac yn ystod ymarfer y Fenter Twyll Genedlaethol:

Rydym yn annog yr holl gyrff sy'n cymryd rhan i gwblhau'r rhestr wirio a'i chyflwyno i'r rhai sy'n gyfrifol am lywodraethu i gefnogi craffu ar eu trefniadau ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol.

Ymarfer Treth Gyngor y Fenter Twyll Genedlaethol (NFI) 2026-27

Dylid cyflwyno data Treth y Cyngor a data'r Gofrestr Etholiadol yn flynyddol ar gyfer paru twyll disgownt un person NFI.

Mae cyflwyno data 2026-27 yn orfodol ar gyfer pob awdurdod unedol yng Nghymru, a gellir cyflwyno data o ddydd Llun 1 Rhagfyr 2026.

Mae gwybodaeth am y manylebau data a'r amserlen ar gyfer cyflwyno'r data ar gael ar GOV.UK yma:

Cod ymarfer ar baru data

Paratowyd Cod Ymarfer ar Baru Data Archwilydd Cyffredinol Cymru [Agorir mewn ffenestr newydd] i gynorthwyo pawb sy'n cymryd rhan mewn gwaith paru data.

Prosesu teg

Mae ein hysbysiad preifatrwydd yn dweud wrthych beth i'w ddisgwyl pan fyddwn yn casglu data personol ar gyfer ymarferion paru data ac yn egluro sut rydym yn diogelu eich preifatrwydd

Sut all fy sefydliad i gymryd rhan?

Os oes gennych ddiddordeb neu os ydych am ddarganfod mwy cysylltwch â ni: menter.twyll@archwilio.cymru.