Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Hysbysiad preifatrwydd paru data

Mae'r hysbysiad hwn yn dweud wrthych am sut y mae eich gwybodaeth bersonol yn cael ei phrosesu mewn perthynas ag ymarferion paru data Archwilydd Cyffredinol Cymru, sy'n cynnwys cymryd rhan yn yr ymarferion paru data a gynhelir gan y Fenter Twyll Genedlaethol.

Y data

Y wybodaeth sy'n berthnasol i baru data yw'r wybodaeth bersonol yr ydych yn ei darparu wrth wneud y canlynol:

  • Gwneud hawliad neu gais am y canlynol:
    - cyllideb bersonol / gofal cymdeithasol
    - pensiwn
    - trwydded gyrrwr tacsi
    - trwydded masnachwr marchnad
    - trwydded alcohol bersonol
    - tai cymdeithasol (tenantiaid presennol ac unigolion ar restr aros am dŷ)
    - hawl i brynu (wedi'i chwblhau ac ar y gweill)
    - pàs a thrwydded cludiant
    - menter lleihau’r dreth gyngor
    - bathodyn glas
    - budd-daliadau'r wladwriaeth, gan gynnwys credyd cynhwysol a budd-dal tai
    - Covid-19 taliadau cymorth neu grantiau
  • Gofyn am daliad anfoneb gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol. Cyfeirir at hyn fel data sefyllfa credydwyr masnach a hanes taliadau.
  • Gofyn am daliad am gyflogaeth gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol. Cyfeirir at hyn fel data cyflogres.
  • Cofrestru i bleidleisio. Cyfeirir at hyn fel data cofrestr etholwyr.

Rydym hefyd yn prosesu gwybodaeth yr ydych yn ei darparu mewn perthynas â’r canlynol:

  • Eich treth gyngor.
  • Eich ardrethi busnes.
  • Preswylwyr mewn cartref gofal preifat a gynhelir gan sefydliad sy'n cymryd rhan yn y Fenter Twyll Genedlaethol.

Gellir gweld manylebau data sy'n darparu mwy o wybodaeth ynglŷn â'r data rydym yn ei brosesu yn y meysydd uchod ar ein gwefan.

Euogfarnau troseddol

Os yw paru data trwy'r Fenter Twyll Genedlaethol yn arwain at erlyniad, yna gall hyn gael ei gofnodi gan sefydliadau sy’n cymryd rhan.

Categorïau arbennig o wybodaeth bersonol

Mae rhai categorïau arbennig o wybodaeth bersonol (data personol sensitif) yn cael eu cynnwys uchod.

Mae data budd-dal tai a benthyciad i fyfyrwyr yn cynnwys dangosydd iechyd neu gyflwr corfforol neu feddwl. Mae'r faner anabledd hon, nad yw'n nodi'r cyflwr penodol, yn angenrheidiol oherwydd mae anabledd yn effeithio ar hawl myfyriwr i geisio am fudd-dal tai.

Mae paru cyllideb bersonol (taliad uniongyrchol) yn defnyddio data yn ymwneud ag unigolion sydd ag amrywiaeth benodol o anghenion gofal cymdeithasol oherwydd bod ganddynt anabledd penodol.

Rydym yn casglu gwybodaeth ar ddeiliaid bathodyn glas (ac ymgeiswyr). Er nad ydym yn cadw gwybodaeth am y cyflwr meddygol sy'n rhoi hawl i'r unigolyn gael bathodyn, rydym yn gwybod pwy sy’n meddu ar fathodyn.

Os na chafwyd data personol gennych chi, cawsom eich data personol gan gyfranogwyr, gan gynnwys awdurdodau lleol, heddluoedd, awdurdodau tân, cyrff y GIG, Llywodraeth Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, a rhai cymdeithasau tai a Chyrff a Noddir gan Lywodraeth Cymru.

Pwrpas

Yn unol â'r statud, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru (yr Archwilydd Cyffredinol) yn cynnal ymarferion paru data i helpu yn y gwaith o atal a chanfod twyll.

Beth sy'n digwydd i'ch data

Mae paru data yn cynnwys cymharu setiau o ddata, sy'n cynnwys eich data, megis cofnodion cyflogres neu fudd-daliadau corff, yn erbyn cofnodion eraill a gynhelir gan yr un corff neu gorff gwahanol i weld pa mor debyg ydynt. Mae paru data yn galluogi canfod hawliadau neu daliadau twyllodrus posibl. Os canfyddir cyfatebiaeth, gall ddangos bod anghysondeb sy'n gofyn am ymchwiliad pellach. Ni ellir bwrw beth sydd wedi digwydd, boed yn dwyll, gwall neu esboniad arall, nes bod ymchwiliad wedi'i gynnal.

Mae'r holl gyrff sy'n cymryd rhan yn ymarferion paru data'r Archwilydd Cyffredinol yn derbyn adroddiad o gyfatebiaethau y dylent ymchwilio iddynt, i ganfod achosion o dwyll, gordaliadau neu dan-daliadau, a gwallau eraill, ac i gymryd camau adferol a diweddaru eu cofnodion yn unol â hynny.

Sylfaen gyfreithiol prosesu 

Caiff prosesu data (gan gynnwys data categori arbennig) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn ymarfer paru data ei wneud o dan ei bwerau statudol yn Neddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004. Nid oes angen caniatâd yr unigolion dan sylw o dan ddeddfwriaeth diogelu data.

Mewn achosion o ddata personol sensitif, dyma brosesu sy'n angenrheidiol am resymau budd sylweddol i’r cyhoedd ar gyfer ymarfer swyddogaeth yr Archwilydd Cyffredinol.

Y sylfaen gyfreithiol am brosesu data euogfarnau troseddol yw paragraffau 6 a 10 o Atodlen 1 i Ddeddf Diogelu Data 2018.

Mae gwybodaeth bellach ynglŷn â phwerau'r Archwilydd Cyffredinol yng Cod Ymarfer Paru Data (agorir mewn ffenest newydd).

Derbynwyr

Caiff eich data personol ei rannu gennym fel y bo angen at ddibenion atal a chanfod twyll gyda chyrff archwilio cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, Swyddfa'r Cabinet yn Lloegr, a'r cyrff sy'n cymryd rhan mewn ymarferion paru data ar sail orfodol neu wirfoddol, megis awdurdodau lleol a chyrff y GIG, adrannau llywodraeth ganolog, a sefydliadau'r sector preifat megis y Swyddfa Twyll Yswiriant ac asiantaethau cyfeirio credyd.

Gwneir datgeliadau gan yr Archwilydd Cyffredinol yn unol â'r darpariaethau statudol perthnasol yn adrannau 64D a 64E Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004.

Efallai y byddwn yn rhannu cofnodion sy'n cynnwys data personol gyda CThEM. Caiff y rhain eu paru yn erbyn cofnodion CThEM a chaiff gwybodaeth ychwanegol CThEM ei hatodi a'i dychwelyd. Bydd gwaith paru CThEM yn ceisio nodi pobl yn y cyfeiriad a ddarparwyd a gwybodaeth berthnasol sy’n ymwneud ag incwm.

Y Fenter Twyll Genedlaethol

Mae gwybodaeth ynglŷn â’r Fenter Twyll Genedlaethol i'w gweld yn sydd ar gael ar ein gwefan.

Cadw

Caiff eich data personol ei gadw gennym am y cyfnodau a nodwyd yn ein Polisi Rheoli Dogfennau a Chofnodion, ac, mewn perthynas â'r Fenter Twyll Genedlaethol, am y cyfnodau a benodwyd yn Atodlen Dileu Data Swyddfa'r Cabinet.

Eich hawliau

Mae gennych yr hawl i ofyn am wybodaeth ynglŷn â sut mae eich data personol yn cael ei brosesu, ac i ofyn am gopi o'r data personol hwnnw. Mae gennych yr hawl i ofyn i unrhyw wallau yn eich data personol gael eu cywiro heb oediad. Mae gennych yr hawl i ofyn i’ch data personol gael ei ddileu os nad oes cyfiawnhad bellach iddo gael ei brosesu. Mae gennych yr hawl mewn amgylchiadau penodol (er enghraifft, lle caiff cywirdeb ei herio) i ofyn bod y gwaith o brosesu eich data yn cael ei gyfyngu.

Mae prosesu eich data yn angenrheidiol am resymau budd sylweddol i’r cyhoedd wrth ymarfer yr awdurdod swyddogol a roddwyd i Archwilydd Cyffredinol Cymru a rheolyddion paru data eraill. Mae gennych yr hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol ar sail sy’n berthnasol i'ch sefyllfa benodol. Os ydych yn gwrthwynebu, rhaid i ni ddangos seiliau cyfreithlon cymhellol ar gyfer y prosesu.

Mae gennych yr hawl i gwyno'n uniongyrchol i ni am drin eich data personol. E-bostiwch cwynion@archwilio.cymru 

Manylion cyswllt

Os dymunwch drafod unrhyw wrthwynebiadau neu bryderon, neu gael copi o'r wybodaeth bersonol bresennol a gedwir amdanoch chi, ysgrifennwch at:

Swyddog Diogelu Data, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu e-bostiwch swyddog.gwybodaeth@archwilio.cymru

Dylech anfon unrhyw gwestiynau am ymarferion paru data at:

Cydlynydd y Fenter Twyll Genedlaethol, Archwilio Cymru, 1 Cwr y Ddinas, Stryd Tyndall, Caerdydd, CF10 4BZ neu anfonwch e-bost at nfi@audit.wales

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am gyfraith diogelu data neu i gwyno i gwyno am sut rydym yn trin eich data personol, gallwch gysylltu â'r Comisiynydd Gwybodaeth, ysgrifennu at: ICO, Wycliffe House, Water Lane, Wilmslow, Swydd Gaer, SK9 5AF, neu dros y ffôn ar: 0303 123 1113 (neu 0330 414 6421 i siarad yn y Gymraeg).

Dylech nodi, fodd bynnag, y byddai'r SCG fel arfer yn disgwyl i chi fod wedi disbyddu ein gweithdrefnau cwyno mewnol cyn delio â chwyn. 

Gellir dod o hyd i ragor o ganllaw ar wefan y SCG.