Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Yr hyn y gwnaethom fwrw golwg arno

    Ymarfer paru data ledled y DU gyfan yw’r Fenter Twyll Genedlaethol (NFI). Awdurdod Twyll Sector Cyhoeddus Llywodraeth y DU sy’n arwain y Fenter Twyll Genedlaethol ar lefel y DU ac yn Lloegr, ond fe’i cyflawnir yng Nghymru dan bwerau paru data’r Archwilydd Cyffredinol.

    • Mae data gan gyrff amrywiol yn cael ei gymharu’n electronig i chwilio am anghysonderau a allai fod yn arwydd o dwyll, gordaliadau neu wallau, a helpu i ymdrin â hwy. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys achosion o’r canlynol:
    • pobl yn cael disgowntiau’r dreth gyngor neu fudd-daliadau eraill, wedi’u cynnwys ar restrau aros ar gyfer tai, neu’n defnyddio hawlenni parcio bathodyn glas, pan nad oes ganddynt hawl i hynny;
    • taliadau am ofal cymdeithasol i oedolion neu bensiynau’n dal i gael eu gwneud ar ôl i rywun farw; a hefyd
    • taliadau dyblyg i gyflenwyr, neu bobl ar ddwy gyflogres wahanol ar yr un pryd mewn rolau â sifftiau sy’n gorgyffwrdd.

    Mae’r adroddiad hwn yn nodi canfyddiadau ar gyfer Cymru o ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol. Mae’n cwmpasu deilliannau ar gyfer y cyfnod rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2026. Mae hyn yn cynnwys deilliannau yr adroddwyd arnynt yn hwyr o’r ymarfer blaenorol. Mae’r adroddiad hefyd yn tynnu ar dystiolaeth o’n hymgysylltiad â’r 50 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a fu’n rhan o’r ymarfer.

    Pam fod hyn yn bwysig

    Mae gwneud y gorau o bob punt o wariant cyhoeddus yn hanfodol. Er bod llawer o’r arian cyhoeddus a gaiff ei wario gan gyrff cyhoeddus Cymru’n cael ei reoli’n dda, mae gwastraff, gwallau a thwyll y gellir eu hatal a’u canfod yn dal i fodoli.

    Mae ymarferion megis y Fenter Twyll Genedlaethol – dim ond un ffordd y gall cyrff ddefnyddio dadansoddeg data – yn rhan bwysig o’r dirwedd wrth-dwyll. Ac os yw’r rhai sydd â’u bryd ar gyflawni twyll yn synhwyro diffyg gwyliadwriaeth, gallai’r risgiau gynyddu. Ond dim ond dangosydd
    yw pariad data, felly mae angen gwaith dilynol cyn bod cyrff yn dwyn unrhyw gasgliadau.

    Y tu hwnt i unrhyw arbedion ariannol, gall canlyniadau’r Fenter Twyll Genedlaethol ddarparu sicrwydd ynghylch systemau rheolaeth fewnol cyrff. Gallant hefyd amlygu meysydd ar gyfer gwella.

    Yr hyn yr ydym wedi’i ganfod

    Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn dal i gynorthwyo cyrff yng Nghymru i atal a chanfod twyll, cryfhau rheolaethau mewnol, a gwella ansawdd data. Ers iddi ddechrau ym 1996, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol wedi adrodd ar ddeilliannau ar gyfer Cymru sy’n gyfanswm o £65.2 miliwn. Ystyr deilliannau yw’r gwerth ariannol a roddir i achosion o dwyll, gordaliad neu wall a adnabuwyd.

    Mae’r ymarfer diweddaraf, Menter Twyll Genedlaethol 2024-25, yn adrodd ar ddeilliannau ar gyfer Cymru sy’n werth £8.7 miliwn. Mae hyn £1.6 miliwn yn uwch na’r ymarfer blaenorol, gyda nifer yr achosion o dwyll, gordaliadau a gwallau a adnabuwyd yn cynyddu 26%. Dywedodd cyrff eu bod wedi profi
    amryw fanteision ehangach. Mae data a gyflwynwyd gan gyrff yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â £2.1 miliwn o’r deilliannau yr adroddwyd arnynt ar gyfer cyrff mewn rhannau eraill o’r DU hefyd.

    • Ar y cyfan, mae cyrff wedi ymgysylltu’n well â Menter Twyll Genedlaethol 2024-25, ond ceir meysydd ar gyfer gwella o hyd. Mae’r meysydd hynny’n cynnwys:
    • cwblhau gwaith dilynol ar bariadau data mewn ffordd amserol;
    • cofnodi gwaith dilynol yn briodol yn system y Fenter Twyll Genedlaethol i osgoi tanadrodd ar ddeilliannau – daeth £1.1 miliwn o gyfanswm y deilliannau yr adroddwyd arnynt o gywiriadau yn dilyn ein hadolygiad ni ein hunain;
    • sut y mae cyrff yn adrodd yn lleol ar eu gwaith paru data dan y Fenter Twyll Genedlaethol a gwaith paru data arall, er enghraifft wrth eu pwyllgorau archwilio neu bwyllgorau cyfatebol; a
    • sut y gallai cyrff â mynediad wneud defnydd gwell o offeryn gwirio ceisiadau’r Fenter Twyll Genedlaethol i atal rhai o achosion y Fenter Twyll Genedlaethol rhag blaen.

    Yr hyn yr ydym yn ei argymell

    Nid ydym yn gwneud argymhellion yn yr adroddiad hwn. Fodd bynnag, gall cyrff ddefnyddio ein rhestr wirio ar gyfer y Fenter Twyll Genedlaethol i fyfyrio ynghylch sut y maent yn mynd ati i wneud eu gwaith. Gallai canlyniadau’r Fenter Twyll Genedlaethol, a’r hyn yr ydym yn ei wybod am sut y mae cyrff
    yn rheoli eu gweithgarwch dan y Fenter Twyll Genedlaethol, oleuo gwaith archwilio arall hefyd.

    Mae rhagor o gyrff cyhoeddus Cymru’n ymuno â’r Fenter Twyll Genedlaethol ar gyfer yr ymarfer nesaf, gan ehangu ei chyrhaeddiad a’i heffaith. Rydym yn bwriadu parhau i ymgysylltu â chyrff i hybu dull
    gweithredol ond seiliedig-ar-risg o adolygu pariadau data ac i roi cymorth i ddysgu gwersi ar y cyd.

    Mae arnom hefyd eisiau gwneud yn siŵr bod cyrff yn cofnodi deilliannau’n iawn. Gallwn wedyn adrodd stori mor llawn â phosibl am effaith y Fenter Twyll Genedlaethol. Ac rydym yn parhau i archwilio sut y gall cyrff o bosibl ddefnyddio data / swyddogaethau yn system y Fenter Twyll Genedlaethol mewn ffyrdd newydd, megis mewn perthynas â hawliadau am wasanaethau offthalmig.

    Yn y cyfamser, mae Awdurdod Twyll y Sector Cyhoeddus yn bwrw ymlaen â gwaith peilot mewn meysydd gan gynnwys twyll cyfradd busnes a thai cymdeithasol. Mae hefyd yn cynllunio datblygiadau ehangach ar gyfer system y Fenter Twyll Genedlaethol, gan gynnwys cefnogi newid i fwy o atal mewn amser real.

CAPTCHA