Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Archwilio Cymru yn cyhoeddi rhestr wirio i helpu cynghorau a Llywodraeth Cymru i fanteisio i’r eithaf ar wariant cyfalaf
Mae cynghorau yn buddsoddi yn eu cynlluniau cyfalaf i’w galluogi i ddarparu eu gwasanaethau o ddydd i ddydd. O ganlyniad, mae cynlluniau cyfalaf cynghorau yn cwmpasu ystod eang o brosiectau, gan gynnwys adeiladu ysgolion, gwella llyfrgelloedd, a phrynu offer a ddefnyddir i ddarparu gofal cymdeithasol. Yn 2023-24, gwariodd cynghorau bron i £2 biliwn ar brosiectau cyfalaf. Mae ein hadroddiad yn edrych ar ba mor dda y mae cynghorau yn cynllunio eu gwariant cyfalaf.
Mae hyn yn cynnwys faint o wybodaeth sy’n cael ei defnyddio i lunio eu cynlluniau ac a ydynt yn nodi eu canlyniadau arfaethedig yn glir. Mae ein hadroddiad hefyd yn archwilio a yw cynghorau yn ystyried cyflwr presennol asedau a’r adnoddau sydd ar gael i’w cyflawni. Edrychwyd hefyd ar ba mor dda y mae cynghorwyr yn cael eu diweddaru ynghylch cyflawni cynlluniau cyfalaf a chanlyniadau gwariant cyfalaf i helpu i sicrhau bod cynghorau’n cyflawni gwerth am arian.
Er bod cynghorau yn cyflawni nifer sylweddol o brosiectau, gwelsom nad yw bob amser yn glir sut mae cynlluniau cyfalaf yn helpu cynghorau i gyflawni eu blaenoriaethau. Mae hyn yn golygu ei bod yn anodd i gynghorau wybod a ydynt yn cyflawni gwerth am arian. Mae bod yn glir ynghylch nodau prosiect, ei gostau, a’i fanteision yn helpu i sicrhau gwerth am arian.
Rydym hefyd wedi tynnu sylw at y ffaith bod angen i gynghorau wella’r wybodaeth sydd ganddynt am gyflwr yr asedau a chynnwys hyn yn eu cynllun cyfalaf. Os na wneir hyn, mae risg na fydd cynghorau yn ymwybodol o gostau cynnal asedau ar gyfer y dyfodol a maint unrhyw fylchau ariannu.
Rydym yn argymell bod cynghorau yn adolygu eu trefniadau cynllunio cyfalaf gan ddefnyddio ein rhestr wirio, sy’n nodi agweddau allweddol ar gynllunio cyfalaf yn effeithiol. Mae ein hadroddiad hefyd yn argymell bod cynghorau yn cefnogi cynghorwyr drwy ddarparu hyfforddiant sy’n canolbwyntio ar gynllunio cyfalaf, sicrhau bod gwybodaeth am gyflwr asedau yn gyfredol, ac asesu effeithiolrwydd prosiectau cyfalaf yn rheolaidd.
Mae gwariant cyfalaf gan gynghorau yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu darparu, nawr ac yn y dyfodol. Fodd bynnag, mae cynghorau yn wynebu heriau ariannol mwyfwy anodd, gan olygu ei bod yn bwysicach fyth bod y ffordd y maent yn cynllunio cyfalaf yn cyflawni gwerth am arian. Rwy’n gobeithio y bydd fy adroddiad yn helpu Llywodraeth Cymru a chynghorau i fyfyrio ar y ffordd y gallant wella effeithiolrwydd y gwaith cynllunio y maent yn ei wneud.