Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Dim tystiolaeth uniongyrchol o dwyll posibl, ond nodwyd nifer fach o wallau
Roedd ein gwaith yn canolbwyntio ar gleifion sydd wedi’u cofrestru ddwywaith neu unigolion sydd wedi marw nad ydynt wedi'u dileu o restrau cleifion yn amserol.
Fe wnaethom ymgysylltu â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i gynnal ymarfer peilot paru data ar restrau cleifion practisau Meddygon Teulu. Ein prif nod oedd canfod unrhyw dystiolaeth o dwyll a/neu wallau posibl. Fodd bynnag, roeddem hefyd eisiau nodi ffyrdd y gallai fod angen i GIG Cymru wella ei brosesau ei hun o ran rhestrau cleifion meddygon teulu.
Mae'r ffordd y mae practisau meddygon teulu yn cael eu talu yn gymhleth, ond nifer y cleifion sydd wedi'u cofrestru mewn practis sydd wrth wraidd hynny. Mae risg twyll cynhenid yn y dull talu hwn. Gall cadw cydbwysedd priodol ar gywirdeb rhestrau cleifion meddygon teulu helpu i reoli'r risg hon.
Yn ogystal â sicrhau bod practisau meddygon teulu yn cael y cyllid cywir, mae rhestrau cleifion cywir yn cefnogi rheolaeth ehangach gofal sylfaenol. Maent hefyd yn helpu i sicrhau bod y GIG yn rhoi mynediad amserol ar gyfer gwasanaethau fel sgrinio; atal materion fel cleifion na ddylent fod wedi’u cofrestru yn atal gwahoddiadau i apwyntiad.
Ni wnaethom nodi unrhyw dystiolaeth uniongyrchol o dwyll posibl yn y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn ein gwaith. Fe wnaethom, fodd bynnag, ddod o hyd i nifer fach o wallau. Yn fwy penodol:
Mae ein canlyniadau'n awgrymu bod rheolaethau chwyddiant rhestrau cleifion yn y meysydd sydd wedi’u cynnwys yn yr ymarfer yn gyffredinol gadarn. Fodd bynnag, mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru yn gweithio i wella ei rheolaethau canolog cyffredinol. Mae newidiadau diweddar hefyd wedi bod i'r system TG ehangach sy'n cynnwys Cymru, Lloegr ac Ynys Manaw.
Mae paru data a thechnegau dadansoddi data eraill yn fwyfwy pwysig wrth i gyrff cyhoeddus ymdrin â risgiau sy'n ymwneud â thwyll a gwall. Nid yw'r canlyniadau o'r ymarfer hwn wedi nodi pryderon sylweddol ynghylch cywirdeb rhestrau cleifion meddygon teulu ac mae hynny'n beth da. Ond nid oes lle i fod yn hunanfodlon. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd y mae Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi bwrw ymlaen â dysgu o'r ymarfer hwn fel rhan o'r gwelliannau ehangach y mae eisoes wedi'u gwneud.