Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Llythyr y Cyfrifydd Cyffredinol at bwyllgorau Senedd

06 Mawrth 2026
  • Wrth i mi agosáu at ddiwedd fy nhymor fel Archwilydd Cyffredinol, rwyf wedi ysgrifennu at gadeiryddion y pwyllgor cyllid a phwyllgor cyfrifon cyhoeddus a gweinyddiaeth gyhoeddus Senedd i gofnodi fy safbwynt ar rai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Beth bynnag fydd y blaenoriaethau o ran polisïau ar gyfer Llywodraeth nesaf Cymru, mae'r weinyddiaeth newydd yn wynebu rhai cwestiynau mawr ynghylch cynaliadwyedd ein gwasanaethau
    cyhoeddus yn y dyfodol.

    Yn rhwystredig efallai, nid yw llawer o'r hyn yr wyf wedi'i nodi yn newydd; er enghraifft, mae fy myfyrdodau ar ein cyd-destun gwasanaeth cyhoeddus yn adlewyrchu materion a godwyd gan fy rhagflaenydd a, chyn hynny, gan sylwebwyr eraill. 

    Mae'r materion hyn, yn fy marn i, yn bwysicach byth. 

    Yn ystod fy amser fel Archwilydd Cyffredinol, rwyf wedi gweld llawer sy'n dda. Ond mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn enfawr a'r cyfle i wella’n sylweddol.

    Gobeithio y bydd y Senedd a Llywodraeth nesaf Cymru yn manteisio ar y myfyrdodau hyn, a gwaith gwych fy nghydweithwyr yn Archwilio Cymru, wrth iddynt geisio ymdrin â'r materion hynny.

    Wrth i mi sefyll i lawr, hoffwn ddiolch i'r ddau Bwyllgor a'r Senedd ehangach am eu cefnogaeth i waith Archwilio Cymru drwy gydol fy naliadaeth.

    Adrian Crompton

    Archwilydd Cyffredinol Cymru


    Darllenwch lythyr Adrian yn llawn

    ,
    Yn ystod fy amser fel Archwilydd Cyffredinol, rwyf wedi gweld llawer sy'n dda. Ond mae'r heriau sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn enfawr a'r cyfle i wella’n sylweddol.
    ,

    Myfyrdodau'r Archwilydd Cyffredinol ar yr heriau a chyfleoedd ar gyfer wasanaethau cyhoeddus Cymru


    Mae'r themâu allweddol yn fy llythyr wedi'u nodi isod.

    ,

    ,

    Heriau parhaus a rhai sy’n datblygu

    Trwy waith fy swyddfa, rwyf wedi adrodd yn gyson ar rai heriau parhaus sy'n wynebu'r sector cyhoeddus.

    ,

    ,

    ,

    ,

    ,

    Cyfleoedd i wneud pethau'n well

    Cael y pethau sylfaenol yn gywir

    Mae cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus effeithiol yn dechrau gyda chael y pethau sylfaenol yn gywir. Mae blynyddoedd o bwysau ariannol wedi gadael rhai meysydd pwysig heb fuddsoddiad digonol ac mae angen ymdrin â hyn os ydym eisiau gwella gwasanaethau a chynyddu cynhyrchiant y sector cyhoeddus.

    ,

    ,

    ,

    ,

    ,

    ,

    ,

    ,