Cynllun Blynyddol 2026-27

Rydym wedi cyhoeddi ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2025-26 sy'n amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf

Rydym yn falch o gyflwyno ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2026-27.

Mae archwiliad cyhoeddus annibynnol yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwella gwerth am arian, yn cefnogi llywodraethu da a rheolaeth ariannol, a gall ddarparu rhybudd cynnar o broblemau sy’n codi. 

Mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn disgrifio’r rhaglen archwilio gynhwysfawr y byddwn yn ei chyflawni dros y flwyddyn i ddod i roi’r wybodaeth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, y Senedd, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r dylanwadwyr ynghylch pa mor
dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.

Adrian Crompton Archwilydd Cyffredinol Cymru
Dr Ian J Rees Cadeirydd y Bwrdd

Ein diben

Sicrhau

Rhoi sicrwydd i bobl bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli’n dda

Esbonio 

sut mae’r arian hwnnw’n cael ei wario

Ysbrydoli

Ysbrydoli’r sector cyhoeddus i wella

Ein gweledigaeth Cynyddu ein heffaith drwy:

Manteisio’n llawn ar ein safbwynt, ein harbenigedd a’n dyfnder unigryw ar fewnwelediad

Cryfhau ein safle fel llais awdurdodol, dibynadwy ac annibynnol

Cynyddu ein hamlygrwydd, dylanwad, a pherthnasedd

Bod yn sefydliad sy’n esiampl ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt

Meysydd pwyslais

Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig o ansawdd uchel

Dull wedi’i dargedu ac sy’n cael effaith ar gyfathrebu a dylanwadu

Diwylliant a model gweithredu sy’n ein galluogi i ffynnu

Ein cynlluniau gwaith

Cyflawni archwiliadau

Byddwn yn cyflawni rhaglen gynhwysfawr o waith archwilio

Gweld mwy

Gwella busnes

Byddwn yn gweithredu ar draws blaenoriaethau cynllunio busnes

Gweld mwy

Cyflawni archwiliadau

Byddwn yn cyflawni rhaglen gynhwysfawr o waith archwilio, yn unol â phwerau a dyletswyddau statudol yr Archwilydd Cyffredinol. Rydym yn ymgymryd â’n gwaith yn unol â Safonau Archwilio Rhyngwladol a safonau cydnabyddedig eraill

Ein gwaith craidd

Gwneud gwaith archwilio lleol mewn dros 800 o gyrff cyhoeddus

Cyflwyno rhaglen o astudiaethau cenedlaethol

Ardystio cynlluniau grant gwerth bron i £1.5 biliwn

Cefnogi gwaith craffu effeithiol gan gynnwys gwaith pwyllgorau’r Senedd

Rhannu arferion da a’r hyn rydym yn ei ddysgu drwy archwilio i gefnogi’r gwasanaethau cyhoeddus a ddarperir

Hwyluso’r gwaith o ganfod twyll a gwall drwy’r Fenter Twyll Genedlaethol

Gwaith archwilio lleol

Astudiaethau cenedlaethol

Byddwn yn cynnal rhaglen o astudiaethau cenedlaethol ac yn paratoi allbynnau ychwanegol yn amlygu themâu cyffredin o’n gwaith archwilio lleol

Rydym yn adolygu ein blaenraglen yn rheolaidd, gan ystyried yr amgylchedd allanol sy’n esblygu, ein hadnoddau ein hunain a gallu cyrff a archwilir i ymgysylltu â ni. Rydym yn sicrhau bod digon o hyblygrwydd fel y gallwn ymateb yn effeithiol i faterion sy’n dod i’r amlwg sy’n peri pryder i’r cyhoeddus neu’r senedd. 

Efallai y bydd allbynnau eraill hefyd yn dod i’r amlwg o’n gwaith ehangach.

Mae ein rhaglen waith ar gyfer y dyfodol yn canolbwyntio ar bedair prif thema:

Mynd i’r afael ag anghydraddoldeb
Ymateb i’r argyfwng hinsawdd a natur
Cydnerthedd y gwasanaeth a mynediad
Gwasanaethau cyhoeddus sy’n cael eu rheoli’n dda

Mwy o wybodaeth am ein gwaith Cyflawni Archwiliadau

Mae fersiwn lawn ein Cynllun Blynyddol yn cynnwys mwy o fanylion am gyflawni ein gwaith archwilio, gan gynnwys gwybodaeth am sut rydym yn bodloni safonau archwilio ac yn dilyn y bunt gyhoeddus yng Nghymru.

Blaenoriaethau busnes

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy, byddwn yn gweithredu ar draws blaenoriaethau cynllunio busnes allweddol yn unol â’n tri maes pwyslais Rydym hefyd wedi nodi cyfres o ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau i fesur ein cynnydd.

Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig o ansawdd uchel

Dull wedi’i dargedu ac sy’n cael effaith ar gyfathrebu a dylanwadu

Diwylliant a model gweithredu sy’n ein galluogi i ffynnu

Gweld y fersiwn lawn o'r Cynllun Blynyddol