Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Mae ein hymrwymiad i ansawdd archwilio uchel yn sail i'n holl waith a gwneud penderfyniadau
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Mewnwelediadau a dadansoddiad o'n gwaith archwilio
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae archwiliad cyhoeddus annibynnol yn tynnu sylw at gyfleoedd ar gyfer gwella gwerth am arian, yn cefnogi llywodraethu da a rheolaeth ariannol, a gallddarparu rhybudd cynnar o broblemau sy’n codi.
Mae’r Cynllun Blynyddol hwn yn disgrifio’r rhaglen archwilio gynhwysfawr y byddwn yn ei chyflawni dros y flwyddyn i ddod i roi’r wybodaeth a’r sicrwydd sydd eu hangen ar y cyhoedd, y Senedd, y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’r dylanwadwyr ynghylch pa mor dda y mae arian cyhoeddus yn cael ei wario.
Bydd 2026-27 yn flwyddyn o newid i Archwilio Cymru, lle gwelwn Adrian yn cwblhau ei dymor wyth mlynedd fel Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae’r Senedd wedi pleidleisio o blaid enwebu Catherine Mealing-Jones fel Archwilydd Cyffredinol nesaf Cymru. Rydym yn llongyfarch Catherine ac yn edrych ymlaen at weithio gyda hi i sicrhau pontio llyfn pan fydd Adrian yn trosglwyddo’r awenau ym mis Gorffennaf.
Y 12 mis nesaf hefyd yw blwyddyn olaf ein strategaeth gorfforaethol bum mlynedd bresennol. Rydym yn falch o’r cynnydd rydyn ni wedi’i wneud dros y pedair blynedd diwethaf tuag at gyflawni ein huchelgeisiau o hogi cyflawniad archwilio a chynyddu ein heffaith a’n gwelededd. Mae rhai cyflawniadau nodedig wedi’u nodi yn y ddogfen hon.
Mae cyflawni’r blaenoriaethau sy’n weddill yn parhau i fod yn hollbwysig:
• Gweithio’n agos gyda’r sector llywodraeth leol i rannu arfer da a helpu i ailadeiladu proses cyfrifon gynaliadwy ac amserol.• Byrhau’r amserlen ar gyfer cwblhau gwaith archwilio perfformiad lleol i sicrhau adroddiadau amserol ac effeithiol.• Meithrin perthnasoedd effeithiol gyda’r Senedd newydd a Llywodraeth Cymru yn dilyn etholiadau’r Senedd ym mis Mai 2026.• Cynyddu digideiddio archwilio trwy ddefnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer eraill sy’n gwella ansawdd, cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ein gwaith.
Ni ellir cyflawni unrhyw un o’n hamcanion ar gyfer archwilio cyhoeddus o ansawdd uchel heb ein staff. Dros y flwyddyn i ddod, byddwn yn parhau i ddarparu cynnig cyflogaeth rhagorol, hyblyg sy’n ategu lles gweithwyr ac amgylchedd gwaith sy’n annog cydweithredu a gwaith o ansawdd uchel.”
Fel y gwnawn bob blwyddyn, mae’r Bwrdd hefyd wedi adolygu a diweddaru ein fframwaith o ddangosyddion perfformiad allweddol a thargedau cysylltiedig, i sicrhau eu bod yn parhau i fod yn cyd-fynd yn llawn â’n hamcanion ac yn heriol iawn.