Paned a Sgwrs - CEIC

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ydych chi'n ymwybodol o'r Economi Gylchol, ond eisiau dysgu mwy?

Os felly, mae gennym ni rywbeth difyr gyda rhywun difyr i chi!

Bydd Jill Davies o Gymunedau Arloesi'r Economi Gylchol (CEIC) yn cyflwyno gwaith CEIC dros y blynyddoedd diwethaf ble maent wedi bod yn datblygu sgiliau a gwybodaeth arloesi ymysg busnesau Cymreig er mwyn cefnogi twf gwyrdd a dyfodol cynaliadwy i Gymru.

Cyfarwyddwr Archwilio – Archwiliad Perfformiad

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Rydym yn dymuno recriwtio Cyfarwyddwr Archwilio sy’n bennaf gyfrifol am bortffolio o waith archwilio perfformiad cenedlaethol a/neu leol sy'n cynnwys gwerth am arian a chymhwyso'r 'egwyddor datblygu cynaliadwy' o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Os ydych chi'n angerddol am atebolrwydd a gwella mewn gwasanaethau cyhoeddus, eisiau gweithio gyda phobl wych, ac yn gallu ysbrydoli a grymuso eraill, dyma'r swydd i chi.