Bwrdd newydd Swyddfa Archwilio Cymru yn barod am waith Fe fydd Isobel Garner, sydd newydd ei hapwyntio fel Cadeirydd, yn llywio'r sefydliad gyda'r Pwyllgor Llywodraethu er mwyn cefnogi Archwilydd Cyffredinol Cymru wrth iddo gyflwyno'i raglen waith. Yn ymuno ag Isobel yng nghyfarfod llawn cyntaf y Bwrdd heddiw fydd pedwar aelod anweithredol - Peter Price, Christine Hayes, Steve Burnett a David Corner - yn ogystal ag Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gary Emery Symudodd Gary o'r proffesiwn AD i fod yn arolygydd gyda'r Arolygiaeth Gwerth Gorau o oedd newydd ei ffurfio yn asesu gwerth am arian o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus lleol cyn ymuno â'r Comisiwn Archwilio 2 flynedd yn ddiweddarach. Treuliodd Gary 8 mlynedd gyda'r Comisiwn yn arwain timau archwilio ac arolygu cyn cael eu dyrchafu i reoli gweithgarwch archwilio ariannol a pherfformiad yn Ne Orllewin Lloegr.
David Francis Yn fwyaf diweddar, treuliodd David 4 blynedd fel Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer sector awyr lân o Johnson Matthey. Cyn hynny roedd yn gweithio i Castrol lle bu'n Bennaeth Cyllid ar gyfer y Gadwyn Gyflenwi Fyd-eang, Marchnata a Thechnoleg. Roedd hefyd yn Bennaeth Rheolaeth Ariannol ac Archwilio Mewnol Byd-eang.Cyn hynny, treuliodd David 10 mlynedd yn Diageo mewn rolau cyllid amrywiol, gan ddechrau mewn archwilio a risg a gorffen fel Cyfarwyddwr Cyllid ar gyfer Global Travel Retail, y Dwyrain Canol a Gogledd Affrica.
Sara Utley Ar hyn o bryd mae'n Archwilydd Arweiniol yn y tîm Iechyd, gyda chyfrifoldeb am gyflawni ystod o waith archwilio'r GIG. Hi hefyd yw'r Archwilydd Arweiniol ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, bu Sara yn gweithio yn y sector preifat. Roedd ei rôl yn canolbwyntio ar gynnal cydymffurfiaeth wrth ddarparu gwasanaethau arlwyo, porthor a glanhau ar draws sawl corff GIG yn Lloegr.Mae gan Sara radd mewn Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus a Meistr mewn Gweinyddu Busnes o Brifysgol Lerpwl.
Bethan Jones Ar ôl gweithio'n agos gyda staff Archwilio Cymru dros y blynyddoedd, mae mewnwelediad a phroffesiynoldeb y sefydliad bob amser wedi gwneud argraff dda arni. Mae hi'n dod â phrofiad strategol a gweithredol uwch o bob rhan o Sector Cyhoeddus Cymru i'r Bwrdd, yn enwedig o feysydd iechyd a llywodraeth leol, ynghyd â dealltwriaeth o drefniadau ymarferol cydweithredu a phartneriaethau sefydliadol.