Cynnal ymdrechion gwirfoddoli yn ystod COVID-19

05 Tachwedd 2020
  • Sut mae gwirfoddolwyr wedi darparu gwasanaethau hanfodol ledled Wrecsam a Sir y Fflint. 

    Yn y blog hwn, mae ein Harweinwyr Archwilio, Gwilym Bury a David Wilson, yn rhannu sut mae gwirfoddolwyr ledled Wrecsam a Sir y Fflint wedi darparu gwasanaethau hanfodol i gymunedau gydol y pandemig COVID19.

    Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW)

    Mae Cymdeithas Mudiadau Gwirfoddol Wrecsam (AVOW) wedi gweithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam i fynd i'r afael ag effaith COVID19. Mae Prif Swyddog AVOW wedi bod yn is-gadeirydd yr is-grŵp Cydnerthedd Cymunedol Rhanbarthol lleol ers cyn y "cyfyngiadau symud" COVID19 ac mae'n aelod o Dîm Rheoli ac Ymateb Brys (EMRT) y Cyngor. Daw hyn â safbwynt ychwanegol at y broses o wneud penderfyniadau ynghylch yr ymateb COVID19 lleol a'r capasiti ychwanegol sydd ei angen. Mae AVOW wedi cynhyrchu a dosbarthu bwletin wythnosol i tua 1,500 o ddarllenwyr o fewn y Cyngor a'r gymuned leol ac mae wedi cydgysylltu gwaith gwirfoddolwyr lleol.

    Un o gryfderau AVOW yw ei gwybodaeth am rwydweithiau cymunedol. Mae'n deall anghenion gwahanol gymunedau yn Wrecsam ac yn gallu defnyddio eu perthynas gadarnhaol ag arweinwyr cymunedol i esbonio'r rhesymeg dros rai o'r camau gweithredu i fynd i'r afael â COVID19, gan gynyddu'r defnydd o'r mesurau a gyflwynwyd a chydymffurfiaeth â nhw.

    Ers dechrau'r pandemig COVID19, mae nifer y recriwtiaid gwirfoddol wedi cynyddu'n sylweddol, ac maent wedi gallu cefnogi llawer o bobl sy'n gwarchod ac eraill yr oedd angen cymorth banc bwyd neu gymorth ymarferol arnynt. Wrth i bobl ddechrau dychwelyd i'r gwaith, yr her i AVOW yw cadw cymaint o gymorth gwirfoddol â phosibl a pharhau i wneud cyfraniad allweddol drwy weithio gyda'r Cyngor i gefnogi cymunedau lleol.

    Mae AVOW, fel y rhan fwyaf o sefydliadau, wedi croesawu'r defnydd cynyddol o dechnoleg i gadw pellter diogel. Mae wedi hwyluso digwyddiad "te dathlu rhithiol" a llawer o gyfarfodydd rhithiol gyda grwpiau lleol. Fodd bynnag, mae defnyddio technoleg rithiol wedi bod yn her hefyd i rai nad ydynt wedi gallu cael mynediad at gyfryngau technoleg rhithiol. Wrth i'r pandemig barhau i ledu, bydd angen i AVOW ystyried agweddau cadarnhaol ar fusnes rhithiol a sut y gall fanteisio ar hyn wrth symud ymlaen.

    Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol (RCC)

    Mae cyngor Wrecsam yn gweithio mewn partneriaeth â chynghorau Sir Ddinbych a Sir y Fflint i ddarparu Gwasanaeth Cydlyniant Cymunedol Rhanbarthol ar gyfer y Gogledd-ddwyrain. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi tua 40 o grwpiau cymunedol a sefydliadau'r trydydd sector sydd, yn eu tro, yn cefnogi cymunedau lleiafrifol yn Wrecsam.

    Ers mis Mawrth 2020, mae'r RCC wedi parhau i gefnogi cymunedau er bod y ffocws, fel gyda'r rhan fwyaf o wasanaethau, wedi addasu i fynd i'r afael â heriau COVID19. Mae cyfanswm o tua £20,000 wedi'i ddyfarnu mewn grantiau i gefnogi cynlluniau penodol megis:

    • darparu parseli bwyd, cyfarpar diogelu personol a chymorth ar-lein;
    • pecynnau gwybodaeth wedi'u cyfieithu;
    • gweithgareddau gwyliau'r haf lle cedwir pellter cymdeithasol; 
    • cymorth mewn perthynas â thrais domestig a chamddefnyddio sylweddau yn ystod Covid-19;
    • cyfleoedd gwirfoddoli ac ymgysylltu â'r gymuned ar ôl Covid-19; a
    • chefnogi'r Gymuned Teithwyr leol yn ystod Covid-19 gyda chymorth addysg o bell.

    Nid yw'r RCC yn llaesu dwylo. Mae ganddo sedd ar Banel Cronfeydd Argyfwng Covid-19 Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru ac mae'n gweithio gydag AVOW a phartneriaid allweddol i nodi a sicrhau mwy o arian ac arian mwy cynaliadwy i gefnogi cymunedau lleiafrifol ac unigolion â nodweddion gwarchodedig.

    Cyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC)

    Cyn y pandemig, nid oedd gan Gyngor Sir y Fflint rwydwaith gwirfoddolwyr cydnabyddedig ar draws y Cyngor; roedd pob un o wasanaethau'r Cyngor yn gyfrifol am recriwtio a rheoli ei wirfoddolwyr ei hun a allai arwain at ddyblygu a bylchau yn y ddarpariaeth gwirfoddolwyr.

    Mewn ymateb i'r pandemig, aeth Gwasanaethau Cymdeithasol y Cyngor (drwy Gyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC)) ati i recriwtio dros 70 o wirfoddolwyr i gychwyn. Roedd y galw am wirfoddolwyr yn isel ar y cychwyn, ond wrth i'r pandemig ddatblygu a gwasanaethau ailagor, bu galw cynyddol am gymorth gan wirfoddolwyr.

    Dyma egwyddorion allweddol y dull:     
      

    • Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos gyda Chyngor Gwirfoddol Lleol Sir y Fflint (FLVC). Gan ddefnyddio gwefan Gwirfoddoli Cymru Llywodraeth Cymru, aeth FLVC ati i recriwtio dros 200 o wirfoddolwyr ar gyfer Cyngor Sir y Fflint (gan gynnwys y 70 a mwy ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol). Mae FLVC yn cyfeirio gwirfoddolwyr at grwpiau cymunedol priodol ac yn paru sgiliau, profiadau a diddordebau;
    • Cyn y pandemig, roedd gan FLVC eisoes fynediad at gyfeiriadur o sefydliadau cymunedol a ddilyswyd (h.y. y sefydliadau hynny a gyfansoddwyd; y rhai oedd â hyfforddiant a pholisïau priodol ar waith; a'r rhai a oedd wedi cwblhau gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar wirfoddolwyr). Dangosodd y cyfeiriadur pa sefydliadau cymunedol oedd yn gweithredu ym mha ardal, a rhestru'r gwasanaethau yr oeddent yn eu cynnig. Mae FLVC yn cynnig cymorth i'r rhwydwaith o grwpiau yn y cyfeiriadur, gan gynnwys hyfforddiant a chael gafael ar grantiau.
    • Mae'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn datblygu strategaeth i edrych ar yr opsiynau ar gyfer gwirfoddolwyr wrth i'r Cyngor symud ymlaen. Mae hyn yn cynnwys opsiynau tymor hwy, megis defnyddio gwirfoddoli fel cam i gyflogaeth.
    • Yn y tymor canolig, mae'r Cyngor yn poeni y bydd rhai meysydd lle bydd anghenion megis cymorth iechyd meddwl wedi cynyddu. Gallai annog gwirfoddolwyr i gefnogi unigolion a theuluoedd; cwblhau ymweliadau llesiant; a chefnogi parciau, cyfleusterau a gwasanaethau cefn gwlad gyflwyno budd. Mae Cynllun Adfer y Grŵp Gwirfoddoli yn archwilio'r potensial i ddatblygu rhwydwaith o wirfoddolwyr y Cyngor yn y dyfodol.

    Mae FLCV yn cyflwyno amryw o fanteision i'r Cyngor:

    • Roedd dull cydgysylltiedig eisoes ar waith, felly roedd prosesau clir yn bodoli ar gyfer unrhyw un a oedd yn cynnig cymorth ac unrhyw un oedd angen help;
    • Roedd mecanwaith ar waith i gefnogi'r grwpiau cymunedol newydd;
    • Nodi anghenion nas diwallwyd yn gynnar yn y gymuned a materion capasiti o fewn grwpiau cymunedol.
    • Dull cydgysylltiedig o sicrhau asesiad o gymhwysedd ar gyfer gwasanaethau h.y. parseli bwyd Llywodraeth Cymru a negeseuon cyson i'r cyhoedd
    • Roedd prosesau sefydledig ar waith, felly roedd yr ymateb i helpu pobl sy'n agored i niwed ar gael ar unwaith, yn ogystal â'r broses o recriwtio gwirfoddolwyr newydd;
    • Nid oedd yn rhaid i'r Cyngor greu prosesau newydd nac adnoddau ychwanegol i ddilysu unrhyw sefydliadau cymunedol;
    • Sicrhawyd y Cyngor bod FLVC yn cyfeirio gwirfoddolwyr at grwpiau a ddilyswyd; ac
    • roedd FLVC eisoes yn cefnogi grwpiau cymunedol presennol.

    Ynglŷn â'r Awduron:

    Mae Dave Wilson yn Arweinydd Archwilio sy'n gyfrifol am raglen waith archwilio perfformiad llywodraeth leol yng nghynghorau Sir Ddinbych a Wrecsam. Cyn symud i Archwilio Cymru, bu'n gweithio i gynghorau yng Ngogledd-orllewin Lloegr, y Comisiwn Archwilio a chwmni archwilio sector preifat.

     

     

     

     

     

     

     

    Mae Gwilym Bury yn Arweinydd Archwilio sy'n gyfrifol am raglen waith archwilio perfformiad llywodraeth leol yng nghynghorau Sir y Fflint a Chonwy. Cyn symud i Archwilio Cymru, bu'n gweithio yn y gwasanaeth sifil, llywodraeth leol a chymdeithasau tai yng Nghymru a Llundain.