Aelodau'r Bwrdd

Bethan Jones

Example image

Ar ôl 36 mlynedd o weithio yn y sector cyhoeddus, gan ymdrechu'n barhaus i wella ac arloesi, mae Bethan wrth ei bodd ac yn teimlo’n freintiedig o fod yn ymuno â Bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru.

Ar ôl gweithio'n agos gyda staff Archwilio Cymru dros y blynyddoedd, mae mewnwelediad a phroffesiynoldeb y sefydliad bob amser wedi gwneud argraff dda arni. Mae hi'n dod â phrofiad strategol a gweithredol uwch o bob rhan o Sector Cyhoeddus Cymru i'r Bwrdd, yn enwedig o feysydd iechyd a llywodraeth leol, ynghyd â dealltwriaeth o drefniadau ymarferol cydweithredu a phartneriaethau sefydliadol.

Un o Ogledd Cymru yw Bethan ac ar ôl graddio o Brifysgol Loughborough ym 1986, ymunodd â GIG Cymru yng Nghaerdydd fel hyfforddai rheoli graddedig. Yna symudodd ymlaen i weithio ym Manceinion cyn dychwelyd adref i Ogledd Cymru i weithio ym 1991, gan groesi draw i lywodraeth leol yn 2001 fel Cyfarwyddwr Gwasanaethau Cymdeithasol a Thai yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Ers hyn, mae hi wedi bod ag amrywiaeth o rolau cyfarwyddwr corfforaethol a dirprwy brif weithredwr ar draws cynghorau Conwy, Sir Ddinbych ac Ynys Môn gyda phortffolios eang, ond bob amser â phwyslais ar berfformiad, llywodraethu a gwella. Dychwelodd i'r GIG yn 2015 fel Cyfarwyddwr Ardal Ganolog Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, rôl yr ymddeolodd ohoni dair blynedd yn ôl.

Mae hi'n briod â physgotwr glannau angerddol, sydd hefyd wedi ymddeol o'r GIG. Mae ganddynt ferch, mab a thri o wyrion, yr ieuengaf ohonynt wedi'i eni ychydig wythnosau yn ôl. Mae hi wrth ei bodd yn teithio, cerdded cŵn ac mae'n gefnogwr pêl-droed brwd. Ei huchelgais yw perffeithio pizza cartref wrth fwynhau'r golygfeydd godidog o'i gardd o'r haul yn machlud dros y môr ar draws Ynys Môn ac Ynys Seiriol.