Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach? Darllen mwy about Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach? Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru. Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:
Gweithdrefnau grantiau blaenorol yn 'anaddas' ar gyfer prosiect Fferm Bysgod Penmon Darllen mwy about Gweithdrefnau grantiau blaenorol yn 'anaddas' ar gyfer prosiect Fferm Bysgod Penmon Roedd Llywodraeth Cymru wedi dilyn y gweithdrefnau perthnasol ar y pryd ar gyfer cymeradwyo a rheoli arian grant i Fferm Bysgod Penmon, Ynys Môn. Ond, nid oedd y gweithdrefnau hyn yn addas ar gyfer prosiect mor fawr, cymhleth a mentrus â hwn, gyda £5.2 miliwn o arian cyhoeddus yn y fantol. Er i'r prosiect gyflawni ei brif amcanion, mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, a gyhoeddir heddiw, yn dangos i broblemau godi pan oedd y fferm ar waith, gan achosi llygredd a niwsans maes o law.
Lansio blog Swyddfa Archwilio Cymru Darllen mwy about Lansio blog Swyddfa Archwilio Cymru Wedi'u hysgrifennu gan staff ar hyd a lled y sefydliad, mae ein blogiau'n rhoi gwybodaeth am ein gweithgareddau a'n hastudiaethau. Beth am i chi ddilyn ein blog a chofrestru i dderbyn e-bost pob tro y mae blog newydd yn cael ei uwchlwytho? Ewch ein blog [Agorir mewn ffenest newydd].
Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau Ceir a Gwyliau yn 'Anghyfreithlon' Darllen mwy about Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau Ceir a Gwyliau yn 'Anghyfreithlon' Gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anghyfreithlon pan dalodd ei Brif Swyddogion i 'brynu' eu hawliau i Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA). Mae Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig, wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn.
Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.
Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru Darllen mwy about Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan - a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau - yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol Darllen mwy about Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol
Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian Darllen mwy about Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.
Contract meddygon ymgynghorol y GIG yn methu a sicrhau'r manteision a fwriadwyd Darllen mwy about Contract meddygon ymgynghorol y GIG yn methu a sicrhau'r manteision a fwriadwyd
Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon' Darllen mwy about Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon'