Prawf bod model Archwilio Cymru yn llwyddo i ddilyn hynt arian cyhoeddus yn effeithiol ar draws haenau llywodraeth

09 Tachwedd 2020
  • Mae Swyddfa Archwilio Cymru mewn sefyllfa gadarn i gefnogi gwelliant a hyrwyddo sicrwydd yn ogystal ag archwilio trefniadau cydweithio ar draws sectorau, yn ôl Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru.

    Mae cysondeb trefniadau archwilio'r wlad o fudd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad newydd gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) o'r enw Breaking out: public audit’s new role in a post-crash world [PDF 445KB Agorir mewn ffenest newydd].

    Wrth siarad am rôl Swyddfa Archwilio Cymru, dywed Huw Vaughan Thomas fod gwaith archwilio cyhoeddus yn rhan bwysig iawn o'r cyfanwaith a'i fod mewn sefyllfa gadarn i ddilyn hynt arian cyhoeddus ar draws holl haenau llywodraeth. Meddai: 

    Rydym yn defnyddio dull cydweithredol sy'n fwy buddiol i'r cyhoedd. Mae hyn yn sicrhau bod ethos gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn cael ei ategu'n gyfan gwbl gan drefniadau archwilio cyhoeddus. Mae'r cydberthnasau gwaith agos hyn yn golygu bod yn rhaid i archwilwyr cyhoeddus gydweithio ag arolygwyr a rheoleiddwyr a bydd hyn yn parhau i atgyfnerthu ein cysylltiadau â defnyddwyr gwasanaethau ac yn cynyddu effaith themâu gwella cyffredin.

    Mae'r casgliad o draethodau gan arbenigwyr sydd wedi'u cynnwys yn Breaking Out yn rhoi darlun calonogol o rôl yr archwilydd ym maes atebolrwydd a gwella gwasanaethau cyhoeddus o Awstralia i Jamaica ac o'r Alban i Bhutan. Mae'r awduron hefyd yn sôn am wella ymgysylltiad cyhoeddus ac atgyfnerthu prosesau craffu ac effeithiolrwydd gwasanaethau cyhoeddus.

    Dywed Ben Cottam, Pennaeth ACCA Cymru: "Ar ôl y cyhoeddiad diweddar y bydd pwerau trethu a benthyca penodol yn cael eu datganoli i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i argymhelliad Comisiwn Silk, mae gwaith archwilio cyhoeddus yn bwysig er mwyn deall sut y caiff yr arian hwn ei wario. Fel trethdalwyr, mae'r gwaith craffu cyhoeddus hwn yn hollbwysig."

    Dywedodd Gillian Fawcett, Pennaeth Sector Cyhoeddus ACCA a chyd-gyfrannwr i'r adroddiad: "Wrth i ffiniau gwasanaethau cyhoeddus ehangu, bydd gwaith archwilio cyhoeddus yn chwarae rôl bwysicach fyth er mwyn rhoi sicrwydd a herio'r ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario a'r ffordd y rhoddir cyfrif amdano.

    "Mae Cymru, fel gweddill y DU, yn ymgodymu â'r angen i oresgyn llesgedd ac amharodrwydd i newid ac mae archwilwyr yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gan wasanaethau ymddiriedaeth gyhoeddus wrth iddynt gael eu trawsnewid yn barod ar gyfer y cyfnod ar ôl yr argyfwng ariannol."

    Daw Mr Vaughan Thomas i'r casgliad canlynol: “Mae llywodraethu da, atebolrwydd a thryloywder yn un o gonglfeini dull Llywodraeth Cymru o wella gwasanaethau cyhoeddus. Mae Cymru'n wlad fach sydd ag uchelgeisiau mawr i'w phobl. Mae ganddi rwystrau i'w goresgyn. Ond mae gennym ethos tîm cryf. Dengys ein tystiolaeth fod y swyddogaeth archwilio cyhoeddus yn bartner annibynnol sy'n ennyn parch ac ymddiriedaeth wrth geisio cyflawni amcanion cenedlaethol cyffredin a chefnogi gwelliant o fewn ein cyrff cyhoeddus."