Trefniadau cynnydd ac ymyriadau yn y GIG

09 Tachwedd 2020
  • Mae dogfen wedi ei chyhoeddi [Agorir mewn ffenest newydd] sy’n nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru, Archwilydd Cyffredinol Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn cydweithio er mwyn rhannu gwybodaeth, ac ymateb, pan fo materion o bwys yn codi mewn cyrff y GIG yng Nghymru.

    Mae staff o Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru wrth ddatblygu a chytuno ar y trefniadau, a bydd y gwaith rŵan yn symud yn ei flaen i sicrhau eu bod nhw’n cael eu gweithredu’n effeithiol.

    Wrth groesawu’r trefniadau newydd, dywed Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Thomas:

    Wrth ymchwilio i’r pryderon am lywodraethu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y llynedd, daeth yn amlwg bod angen i ni arolygu’r prosesau lle mae cyrff arolygu allanol a Llywodraeth Cymru yn rhannu gwybodaeth am berfformiad cyrff y GIG er mwyn sicrhau bod unrhyw weithrediadau sy’n digwydd mewn ymateb i bryderon yn cael eu cydlynu a bod y wybodaeth lawn ar gael. Rwy’n falch bod staff Swyddfa Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Llywodraeth Cymru wedi gallu cydweithio i greu’r ddogfen hon ac rwy’n croesawu ei chyhoeddiad. Rydyn ni nawr yn edrych ymlaen at roi’r trefniadau ar waith.