Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.

Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan - a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau - yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.

Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

 

Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.

Yr Archwilydd cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Casnewydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae'r adroddiad ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir ei weld drwy glicio ar y ddolen uchod.

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Gâr

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.

Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n nodi cynnydd Swyddfa Archwilio Cymru tuag at gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb, a gyhoeddir heddiw, yn amlinellu'r camau a gymerwyd i gyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb statudol a gwneud egwyddorion cydraddoldeb yn rhan annatod o'r ffordd mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gweithio.