Dywedwch Wrthym: A Yw Eich Cymdogaeth Yn Iach?

09 Tachwedd 2020
  • Swyddfa Archwilio Cymru yn lansio astudiaeth bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd ac yn gofyn am farn y cyhoedd

    Caiff pobl yng Nghymru eu hannog i gwblhau arolwg byr i helpu astudiaeth newydd bwysig o Wasanaethau Iechyd yr Amgylchedd, sy'n cael ei lansio gan Swyddfa Archwilio Cymru.

    Bydd yr ymchwiliad yn ystyried pa mor dda y mae cynghorau lleol yn darparu'r gwasanaethau eang sy'n perthyn i gategori iechyd yr amgylchedd. Mae'r gwasanaethau hynny'n cynnwys:

    • asesu ansawdd y cartrefi y mae pobl yn byw ynddynt;
    • ystyried diogelwch y lleoedd y mae pobl yn gweithio ynddynt;
    • archwilio hylendid y mannau lle mae pobl yn bwyta a lle caiff bwyd ei gynhyrchu;
    • lleihau achosion ac effeithiau llygredd aer;
    • ymdrin â phroblemau a achosir gan swn ac ymddygiad gwrthgymdeithasol;
    • rheoli plâu; a    
    • rheoli cwn a'u perchnogion.

    Mae tîm yr adolygiad am glywed gan bobl sydd wedi defnyddio'r gwasanaethau hyn, er mwyn darganfod sut brofiad a gawsant; pa mor effeithiol yr oedd eu cyngor wrth ymdrin â'u problem; ac i ba raddau y maent yn ymwybodol o newidiadau i'r gwasanaethau hyn, a achosir gan ostyngiadau yn yr arian sydd gan gynghorau i'w wario ar wasanaethau.

    Gallwch gwblhau'r arolwg byr, dienw drwy ymweld â'n gwefan Fy nhref iach [Agorir mewn ffenest newydd] lle ceir dolen gyswllt ar gyfer yr arolwg yn ogystal â rhywfaint o wybodaeth bellach.

    Bydd yr holl safbwyntiau a gofnodir yn helpu tîm yr astudiaeth i nodi problemau penodol y gellir ymchwilio iddynt ymhellach yn rhan o waith y tîm. Caiff y canfyddiadau eu cyhoeddi mewn adroddiad cenedlaethol gan Archwilydd Cyffredinol Cymru y flwyddyn nesaf.

    Meddai Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas heddiw:

    Er mwyn deall yn wirioneddol beth yw sefyllfa iechyd yr amgylchedd yng Nghymru, mae angen i ni glywed gan y sawl sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Rwy'n gobeithio y bydd cynifer o bobl ag sy'n bosibl yn cwblhau'r arolwg byr hwn, er mwyn i ni allu cael gwybodaeth eang o bob cwr o Gymru. Bydd hynny'n ein helpu i ddarparu asesiad gonest o ba mor dda y mae cynghorau'n gweithredu â llai o arian, a beth y mae angen ei wella - er mwyn gwasanaethu ein cymunedau'n well.