Seminar ar Fil Cenedlaethau’r Dyfodol, ar y gweill

09 Tachwedd 2020
  • Mae rhai llefydd yn dal i fod ar gael yn y seminar yma, sydd wedi’i gynllunio i helpu’r sector cyhoeddus baratoi ar gyfer y Bil 

    Cynhelir y seminar hwn gan Swyddfa Archwilio Cymru mewn cydweithrediad â Chomisiynydd Dyfodol Cynaliadwy Cymru. Bydd y Seminar hwn yn helpu sector cyhoeddus Cymru i baratoi ar gyfer Bil Cenedlaethau’r Dyfodol. Bydd y Bil yn gosod cyfrifoldeb newydd ar wasanaethau cyhoeddus datblygedig Cymru i wneud datblygiad cynaliadwy yn egwyddor drefniadol ganolog.

     

    Mae’r seminar wedi ei strwythuro er mwyn ymgysylltu ag arweinyddiaeth y sector cyhoeddus yng Nghymru ond hefyd i ddarparu cyfle i ymarferwyr ddatblygu eu crefft. Bydd cynrychiolwyr yn gadael y seminar gyda:

    • dealltwriaeth lawnach o oblygiadau’r Bil arfaethedig ar Ddyfodol Cynaliadwy i’w sefydliadau nhw; a
    • sut y gall egwyddorion adrodd integredig helpu cyrff cyhoeddus i ymateb i’r cyfrifoldeb newydd a sut i symleiddio eu proses o adrodd, gan gynnwys rôl gweithwyr ariannol.

    Am fanylion llawn a gwybodaeth am sut i archebu, ewch i dudalen Seminar Bil Cenedlaethau’r Dyfodol.

    Gweler Hefyd: Seminarau Dysgu a Rennir