Archwilydd Cyffredinol yn Archwilio i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru Mewn Band Eang

09 Tachwedd 2020
  • Yn ddiweddar mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi dechrau adolygiad o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn seilwaith band eang cyflymder uchel ar draws Cymru.

    Mae’r archwiliad yn rhan o’i raglen o adolygiadau gwerth am arian a bydd yn ateb y cwestiwn: "Yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o gyflwyno seilwaith band eang i aelwydydd a busnesau yn debygol o gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd?"

    Bydd tîm astudio Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cynnal yr adolygiad, yn ystyried effeithiolrwydd strategaeth a thargedau Llywodraeth Cymru; ei chynlluniau ariannol a strwythurau llywodraethu ar gyfer y rhaglen; trefniadau’r cytundeb gyda BT ar gyfer rhaglen Cyflymu Cymru; yn ogystal â phrosesau caffael Llywodraeth Cymru, trefniadau rheoli risgiau, a’r broses o fonitro a gwerthuso’r contract.

    Fel rhan o'r adolygiad hwn, cynhelir arolwg o tua 1,000 o fusnesau ac aelwydydd yn y ddwy ardal lle bu cynnydd sylweddol o ran cyflwyno band eang cyflymder uchel – sef Blaenau Gwent a Gwynedd – i weld os yw'n gwneud gwahaniaeth ac, os felly, i ba raddau.

    Mae tîm y prosiect hefyd yn gwahodd aelodau o'r cyhoedd i gysylltu i rannu unrhyw brofiadau sydd ganddynt o raglen Cyflymu Cymru. Mae modd i bobl e-bostio'r tîm ar broadband.study@wao.gov.uk.

    Bydd adborth a gasglwyd yn cyfrannu at yr adroddiad terfynol – fydd yn cael ei gyhoeddi erbyn diwedd y flwyddyn. Fodd bynnag, nid oes modd i dîm yr astudiaeth dderbyn unrhyw gwynion ynglŷn â BT neu ddarparwyr gwasanaeth band eang eraill, ac efallai na fyddent yn gallu ymateb i ohebiaethau unigol.