Archwilydd Cyffredinol yn rhoi amod ar gyfrifon tri o gyrff y GIG yng Nghymru Ac, am y tro cyntaf ers ad-drefnu’r GIG yn 2009-10, mae wedi rhoi amod ar ei farn ar gyfrifon tri Bwrdd Iechyd am dorri eu terfynau gwario cymeradwy – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi ysgol haf gwasanaethau cyhoeddus Cynhelir yr ysgol haf flynyddol eleni ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan a'r flwyddyn hon mae’n dilyn y thema ‘Ymddiriedaeth – Sylfaen Llwyddiant’. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arweinwyr a rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus ddysgu a myfyrio ar eu harweinyddiaeth eu hunain a hefyd dysgu oddi wrth bobl eraill. I ddarganfod mwy am yr ysgol haf [Agorir mewn ffenest newydd].
Archwilydd Cyffredinol yn anerch arweinwyr Llywodraeth Leol ynglŷn â'r her o newid yn y ddeng mlynedd nesaf Yn y gynhadledd 'Cyngor 2025 - Gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru' roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn sôn am yr heriau a wynebir gan Lywodraeth Leol yn sgîl yr adroddiadau Williams a Silk a hefyd am bwysigrwydd parchu cymunedau cyfredol yng Nghymru wrth inni edrych at ad-drefnu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru Mae’r daith, fydd yn cynnwys mynyddoedd Yr Wyddfa yn y Gogledd, Cadair Idris yng Nghanolbarth Cymru, a Phen y Fan yn y De, i gyd er mwyn codi arian at yr elusen Changing Faces, a ddewiswyd gan aelodau o staff yn y gynhadledd flynyddol y llynedd. Mae’r tîm eisoes wedi codi £2,061 a hoffem ddymuno llongyfarchiadau a phob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw ddringo 30km mewn un diwrnod!
Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth ac yn wynebu gostyngiadau sylweddol o ran cyllidebau mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae bellach yn hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn gweithio i gael gwared ar wastraff ac aneffeithlonrwydd o fewn eu gwasanaethau presennol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Yr wythnos hon mae aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â llu o grwpiau allanol i drafod ffyrdd o wella sut y gall ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Paul Dimblebee, sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn:
Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro'r rôl a chwaraeir gan bwyllgorau craffu o ran hyrwyddo gwelliannau a herio penderfyniadau.
Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn cael ei reoli a'i lywodraethu’n dda yn gyffredinol a bod ganddo record o welliant cyson, ond mae ganddo lawer i'w wneud i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn y dyfodol.
Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol. Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]
Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG Gofynnir i gleifion a pherthnasau i rannu eu profiadau o aros am lawdriniaethau wedi'u cynllunio. Bydd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, yn casglu profiadau cleifion o bob cwr o'r wlad i helpu i werthuso sut y mae'r GIG yng Nghymru yn rheoli amseroedd aros. Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas: