Lansio arolwg o ddewisiadau ieithyddol y cyrff a archwilir gennym

09 Tachwedd 2020
  • Rydyn ni wedi cyhoeddi arolwg dewis iaith yn gofyn i’r cyrff rydym yn eu harchwilio i ddatgan ym mha iaith y byddai'n well ganddynt dderbyn dogfennau a gwasanaethau oddi wrthym ni.

    Rydym yn cynnal arolwg dewis iaith bob tair blynedd fel rhan o Gynllun Iaith Gymraeg [PDF 500KB Agorir mewn ffenest newydd] yr Archwilydd Cyffredinol, sy'n esbonio sut rydym yn rhoi'r egwyddor o drin y Gymraeg a'r Saesneg yn gyfartal ar waith.

    Dywedodd yr Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:

    Rydym wedi ymrwymo i ddarparu gwasanaethau dwyieithog ac yn ymfalchïo yn hynny. Er mwyn darparu ein gwasanaethau mor effeithiol ac effeithlon â phosib, mae'n bwysig bod ein data ar ddewis iaith sefydliadau yn gyfredol.

    Fel sefydliad dwyieithog, ein nod bob amser yw cynnig dewis iaith i’n cleientiaid a’r cyhoedd. Mae’r arolwg hwn, sy’n cael ei gynnal bob tair blynedd, yn rhan bwysig o'n Cynllun Iaith Gymraeg a byddwn yn annog y cyrff rydyn ni’n eu harchwilio i wneud eu hanghenion yn hysbys drwy gwblhau ein harolwg.

    Mae'r wybodaeth yn ein helpu i ddiwallu anghenion ieithyddol sefydliadau drwy ein galluogi i gynllunio ein gweithlu yn effeithiol a datblygu ein mentrau recriwtio a hyfforddi ymhellach.

    Am fwy o wybodaeth ar ein dull a'n hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau dwyieithog, ewch i dudalen Y Gymraeg.