Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi ei Gynllun Blynyddol ar gyfer 2024-25

12 Ebrill 2024
  • Gyda'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i wynebu pwysau enfawr ariannol, galw a gweithlu sylweddol, mae'r cynllun yn amlinellu rôl hanfodol Archwilio Cymru o ran ategu llywodraethu da, rheoli ariannol, sicrhau gwerth am arian a nodi rhybuddion cynnar o broblemau'n codi.

    Mae'n nodi gwaith craidd a blaenoriaethau busnes y sefydliad ar gyfer y 12 mis nesaf gan gynnwys: 

    • Gwaith archwilio lleol mewn dros 800 o gyrff cyhoeddus 
    • Cyflwyno rhaglen fanwl o astudiaethau cenedlaethol  
    • Ardystio tua £1.5 biliwnn o gynlluniau grant 
    • Rhannu arfer da i ategu cyrff cyhoeddus 
    • Ategu craffu effeithiol gan gynnwys gwaith Pwyllgorau'r Senedd 
    • Hwyluso'r broses o ganfod twyll a chamgymeriad drwy'r Fenter Twyll Genedlaethol  
    • Cymeradwyo £2 biliwn o daliadau o Gronfa Gyfunol Cymru bob mis 

    Mae'n cynnwys cynlluniau i wella amseroldeb ein gwaith archwilio perfformiad yn y GIG a chyrff llywodraeth leol ac adfer archwilio cyfrifon yr 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru i amserlenni cyn y pandemig dros y blynyddoedd nesaf.  

    ,
    Mae'r pwysau enfawr yn ariannol, o ran galw ac yn y gweithlu sy'n wynebu ein gwasanaethau cyhoeddus yn golygu bod gan Archwilio Cymru swyddogaeth hanfodol i'w chwarae wrth ddarparu’r cyhoedd, y Senedd, y rhai sy'n gwneud penderfyniadau a dylanwadwyr â’r wybodaeth ac y sicrwydd sydd eu hangen ynghylch sut mae arian cyhoeddus yn cael ei wario. Mae ein Cynllun Blynyddol yn traethu sut y bwriedir cyflawni hyn dros y 12 mis nesaf wrth sicrhau ein bod ar y trywydd iawn i gyflawni ein huchelgeisiau strategol i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dda, egluro sut mae'n cael ei ddefnyddio ac ysbrydoli'r sector cyhoeddus i wella. Dr Kathryn Chamberlain OBE, cadeirydd bwrdd Swyddfa Archwilio Cymru
    ,
    Mae'r pwysau ar wasanaethau cyhoeddus yn golygu ei bod yn hanfodol bod sefydliadau'n cael gwerth am arian o bob punt o wariant. Rwyf eisoes wedi traethu eleni rhai themâu allweddol a nodwyd yn fy ngwaith archwilio lle credaf y gall cyrff cyhoeddus sicrhau mwy o werth am arian. Yn ystod y flwyddyn hon, byddwn yn sicrhau ein bod yn canolbwyntio’n fanylach ar werth am arian drwy ddadansoddiad ariannol a chanlyniadau cryfach yn ein gwaith lleol a chenedlaethol.  Byddwn yn gwneud hyn wrth gyflawni ein hymrwymiad i fod yn sefydliad sy’n esiampl ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru a sicrhau amgylchedd gwaith sy’n annog cydweithio a gwaith o ansawdd uchel. Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Cynllun Blynyddol 2024-25

    View more