Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

8 Awst 2017 - 12:03yp

Tynnodd ein galwad am dystiolaeth o ymatebion gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus ar y trefniadau darparu presennol, ariannol a risgiau gwasanaeth a'r newid diweddar yn y ddeddfwriaeth. 

8 Awst 2017 - 12:02yp

Tynnodd ein galwad am dystiolaeth o ymatebion gan amrywiaeth o gyrff cyhoeddus ar y trefniadau darparu presennol, ariannol a risgiau gwasanaeth a'r newid diweddar yn y ddeddfwriaeth. 

4 Awst 2017 - 8:00yb

Yn yr asesiad o welliant blynyddol, ystyrir pa mor debygol yw hi y bydd awdurdod yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus.

1 Awst 2017 - 3:51yp

Nod yr adolygiad oedd canfod a yw Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn sicrhau bod gan gleifion fynediad at wasanaethau meddyg teulu cadarn ac effeithiol y tu allan i oriau.

20 Gorff 2017 - 12:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn edrych ar sut y mae Llywodraeth Cymru wedi rheoli’r risgiau a ddaeth i’r amlwg gyda phrosiect tyrbin gwynt CELT2, gan gynnwys a gafodd y materion gwrthdaro budd eu rheoli’n briodol. 

12 Gorff 2017 - 12:36yp

Ystyriai’r adolygiad a oedd y Bwrdd Iechyd yn gwneud defnydd effeithiol o'i staff dros dro.

11 Gorff 2017 - 9:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn rhan o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal adolygiad o wasanaethau radioleg yn yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru.

7 Gorff 2017 - 3:28yp

Mae’r adroddiad hwn yn rhan o benderfyniad yr Archwilydd Cyffredinol i gynnal adolygiad o wasanaethau radioleg yn yr holl fyrddau iechyd yng Nghymru.

7 Gorff 2017 - 12:01yb

Mae’r adroddiad Gweithredu Deddf Cyllid  y GIG yn canolbwyntio ar b’un a yw Llywodraeth Cymru wedi datblygu trefniadau cadarn er mwyn helpu i weithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) a sicrhau’r manteision bwriadedig.

30 Meh 2017 - 3:00yp

Yn yr asesiad o welliant blynyddol, ystyrir pa mor debygol yw hi y bydd y Cyngor yn cydymffurfio â’i ddyletswydd i wneud trefniadau i sicrhau gwelliant parhaus.t.

Tudalennau