Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae’r Bwrdd Iechyd wedi gwneud peth cynnydd ers ein hadolygiad dilynol diwethaf, ond mae nifer o faterion hirsefydlog yn dal i fodoli.

    Mae sefydlogrwydd y gweithlu yn y Tîm Codio Clinigol wedi gwella gyda chymorth trefniadau rheoli mwy eglur a chyfleoedd datblygu staff. Mae staff hefyd yn dweud bod diwylliant tîm cefnogol yn bodoli. Fodd bynnag, mae nifer sylweddol o uwch swyddi’n dal i fod yn wag, ac mae gweithgareddau allweddol megis dilysu, archwilio a hyfforddiant yn dal i ddibynnu ar nifer fach o unigolion. Mae’r Llawlyfr Polisi a Gweithdrefn Codio Clinigol wedi dyddio ac nid yw’n adlewyrchu trefniadau gweithrediadol cyfredol mwyach.

    Mae cofnodion meddygol yn dal i fod yn rhwystr mawr i godio clinigol amserol a chywir. Er bod y defnydd o gofnodion dros dro wedi lleihau a bod mynediad wedi gwella mewn rhai meysydd, mae problemau’n dal i fodoli gydag ansawdd cofnodion, oedi cyn coladu, tracio anghyson a dibyniaeth barhaus ar gofnodion papur.

    Mae ymwybyddiaeth y Bwrdd o godio clinigol wedi cael ei chynnal ac fe geir ymrwymiad i wella. Fodd bynnag, cyfyngedig yw’r oruchwyliaeth gydag adroddiadau’n cynnwys ffocws cul ar dargedau Llywodraeth Cymru. Nid oes rhyw lawer o esboniad o’r defnydd o ddata wedi’i godio ac mae goruchwyliaeth gan bwyllgorau’n aneglur. Er bod amlygrwydd y Tîm Codio Clinigol wedi gwella, cyfyngedig yw ymgysylltiad clinigol o hyd.

    Nid yw perfformiad y Bwrdd Iechyd yn erbyn mesurau a thargedau codio clinigol Llywodraeth Cymru wedi dangos gwelliant parhaus ac mae’n dal i amrywio dros amser. Er bod ystod o gamau gweithredu’n mynd rhagddynt, nid oes cynllun eglur, cydgysylltiedig i lywio a chynnal gwelliant hirdymor.

CAPTCHA