Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

  • Mae gan yr Ymddiriedolaeth gynlluniau uchelgeisiol i wella’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys. Mae’r cynlluniau hyn yn cyd-fynd â Gweledigaeth y Dyfodol ac fe’u goleuir gan ddata ar berfformiad. Fodd bynnag, nid yw manteision a deilliannau disgwyliedig wedi’u diffinio eto, nid yw rolau a chyfrifoldebau ar draws partneriaid wedi’u cytuno’n llawn, ac nid yw cynlluniau wedi’u costio na’u blaenoriaethu’n llawn. 

    Mae’r Ymddiriedolaeth yn datblygu trefniadau rheoli rhaglen ar gyfer gwelliannau i’r Gwasanaeth Cludo Cleifion Mewn Achosion Nad Ydynt yn Rhai Brys, ond nid yw’r rhain wedi’u sefydlu’n llawn eto. Mae’r Ymddiriedolaeth a’r Cydbwyllgor Comisiynu’n monitro camau gweithredu a pherfformiad, ond nid oes gan yr Ymddiriedolaeth olwg glir eto ar gynnydd yn erbyn deilliannau disgwyliedig Gweledigaeth y Dyfodol ar draws y system yn ei chyfanrwydd. Er mwyn cyflawni’r deilliannau hynny bydd yn rhaid wrth gyflawni cyflymach, ffocws mwy eglur ar fanteision, a chydweithio agosach gyda phartneriaid allweddol. Caiff siwrneiau wedi’u canslo eu hachosi gan ystod o ffactorau, gan gynnwys canslo gan gleifion, ysbytai ac oherwydd diffyg capasiti yn yr Ymddiriedolaeth. 

    Mae’r modd y cyflawnir camau gwella allweddol wedi bod yn arafach na’r bwriad mewn rhai meysydd. Er bod perfformiad wedi gwella ar gyfer rhai mathau o siwrneiau, mae pwysau megis galw cynyddol, anghenion mwy cymhleth gan gleifion, canslo, oedi, a materion cyfathrebu yn parhau i effeithio ar brofiad cleifion. Nid yw adroddiadau’n cysylltu camau gwella â cherrig milltir, manteision nac effaith fesuradwy mewn modd cyson. Mae hyn yn ei gwneud hi’n anos asesu a yw newidiadau’n cyflawni’r deilliannau bwriadedig.

CAPTCHA