Mae’r adroddiadau hyn yn cwmpasu amrywiaeth o bynciau a fyddai o ddiddordeb i chi o bosib.

Mae modd i chi chwilio am adroddiad penodol drwy ddefnyddio’r teclyn chwilio. Gallwch roi gosodiadau chwilio i ddarganfod cyhoeddiad ar destun neu o fewn ardal ddaearyddol benodol.

Os ydych angen unrhyw un o’n cyhoeddiadau mewn ffurf ac/neu iaith wahanol cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r manylion canlynol:

Ffôn: 029 2032 0500

E-bost: post@archwilio.cymru

Rydym yn croesawu galwadau ffôn yn Gymraeg a Saesneg. Gallwch ysgrifennu atom hefyd, yn Gymraeg neu’n Saesneg, ac fe wnawn ymateb yn yr iaith rydych chi wedi ei defnyddio. Ni fydd gohebu yn Gymraeg yn arwain at oedi.

Adroddiadau hŷn

Galwch gael gafael ar adroddiad a gyhoeddwyd cyn 2010 drwy edrych ar hen fersiynau o’n gwefan Archif we'r DU [agorir mewn ffenest newydd]. Gallwch gysylltu â ni’n uniongyrchol hefyd a byddwn yn hapus i roi copi electronig i chi.

Gweler Hefyd: Arfer Da

Find documents

28 Maw 2014 - 10:35yb

Yn cynnwys graddfeydd ffioedd am archwilio cyfrifon 2013-14 awdurdodau unedol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, cronfeydd pensiwn a chynghorau tref a chymuned.

27 Maw 2014 - 12:00yb

Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn.

26 Maw 2014 - 9:29yb

Mae’r papur briffio canlynol yn darparu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus â diweddariad ar raglen o astudiaethau gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol. 

25 Maw 2014 - 12:00yb

Mae’r adroddiad hwn yn archwilio i ba raddau y mae Rhaglen y Strategaeth Leoli wedi cyflawni ei hamcanion mewn ffordd sy’n cynnig gwerth am arian.

20 Maw 2014 - 1:34yp

Rydyn ni wedi paratoi’r memorandwm hwn ar y Gwasanaeth Awyr oddi mewn i Gymru ar gais Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol.

1 Maw 2014 - 2:19yp

Mae’r adroddiad hwn yn crynhoi fy nghanfyddiadau o’r gwaith archwilio a wnaed gennyf ym Mwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr (y Bwrdd Iechyd) yn ystod 2013. Mae fy nghasgliadau mewn perthynas â threfniadau llywodraethu yn y Bwrdd Iechyd yn deillio o’m gwaith ar gyfer yr Asesiad Strwythuredig ac maent yn cynrychioli’r sefyllfa adeg cyflawni’r gwaith hwnnw ym mis Hydref 2013.

6 Chwef 2014 - 3:07yp

Rydym wedi paratoi’r memorandwm ffeithiol hwn ar gyflogau uwch reolwyr ar draws sector cyhoeddus Cymru ar gais Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad Cenedlaethol. Mae’r memorandwm hwn yn hysbysu ymchwiliad gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y pwnc hwn, a gellir dod o hyd i’r manylion ar wefan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

27 Ion 2014 - 11:59yp

Yn yr adroddiad hwn ceir trosolwg o’r graddau y mae cynghorau yng Nghymru yn ymateb i’r pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu. Mae’n trafod effeithiolrwydd eu cynllunio ariannol, eu dull o wneud penderfyniadau ariannol a’r camau y maent yn eu cymryd i leihau effaith toriadau sylweddol i’r gyllideb. Mae hefyd yn ystyried i ba raddau y mae cynghorau’n deall effaith eu gweithredoedd ac yn amlinellu rhai syniadau cynnar ar oblygiadau Adolygiad o Wariant 2013 i lywodraeth leol yng Nghymru.

27 Ion 2014 - 5:01yp

Mae gofyn i’r Archwilydd Cyffredinol, o dan Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2009, adrodd ar waith archwilio ac asesu o ran os yw’r Cyngor wedi cyflawni ei ddyletswyddau a chwrdd ag anghenion y Mesur

17 Ion 2014 - 11:10yb

Mae Prif Gwnstabl Heddlu Gogledd Cymru yn gyfrifol am roi trefniadau priodol ar waith i sicrhau darbodusrwydd, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran defnydd y Prif Gwnstabl o adnoddau, ac i sicrhau trefniadau gwarchod a llywodraethu priodol.

Tudalennau