Darpariaeth Taliadau Uniongyrchol Yn Ebrill 2022 bydd Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi ei adroddiad ar ddarpariaeth Taliadau uniongyrchol gan gynghorau. Mae’r adroddiad yn gwneud argymhellion i Lywodraeth Cymru a chynghorau, ac yn taflu goleuni ar y ffordd all darpariaeth Taliadau Uniongyrchol chwarae rhan allweddol wrth weithredu yn unol â egwyddorion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014.
Yr Archwilydd Cyffredinol yn trafod newidiadau demograffig a'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus ar BBC Cymru Fyw
Swyddog y Gymraeg Bydd Swyddog y Gymraeg yn gyfrifol am ddatblygu strategaeth, cynllunio a chydlynu gweithgareddau iaith Gymraeg ac adrodd ar gyfer y sefydliad. Bydd Swyddog y Gymraeg hefyd yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer Archwilio Cymru gyda Chomisiynydd y Gymraeg, yn ogystal â datblygiadau deddfwriaethol, strategol a thechnegol mewn perthynas â'r Gymraeg a'r diwydiant cyfieithu.