Gofal heb ei drefnu yng Nghymru – system dan bwysau cynyddol

Gofal heb ei drefnu yng Nghymru – system dan bwysau cynyddol
21 Ebrill 2022
Arwydd A&E y tu allan i ysbyty.

Beth yw ystyr gofal heb ei drefnu?

Gofal heb ei drefnu yw unrhyw ofal brys, heb ei gynllunio a ddarperir gan wasanaethau gofal iechyd. Gall gwmpasu amrywiaeth eang o gyflyrau ond yn y bôn mae'n cyfeirio at ofal y mae angen ei ddarparu'n gyflym (h.y. o fewn awr neu ddwy) neu mewn rhai achosion yn syth.

Sut mae’r system gofal heb ei drefnu yn perfformio ar hyn o bryd yng Nghymru?

Mae staff sy'n gweithio yn y system gofal heb ei drefnu yn darparu triniaethau ac ymyriadau hanfodol ar adeg pan fo pobl eu hangen fwyaf. Fodd bynnag, mae eitemau niferus ar y cyfryngau sy'n amlygu anawsterau pobl pan fydd angen gofal brys arnyn nhw, neu ofal brys yn amlygu’r ffaith fod y gyfundrefn y mae'r staff yn gweithio ynddi yn ei chael hi'n anodd iawn. Mae hyn yn arbennig o wir pan fydd pobl yn galw am ambiwlans neu'n mynd i adran damweiniau ac achosion brys.

Er y bydd adrannau damweiniau ac achosion brys yn rhoi blaenoriaeth i'r cleifion mwyaf difrifol wael a’r cleifion hynny sydd wedi'u hanafu fwyaf, gall llawer o bobl sy'n mynd i'r adrannau hyn wynebu aros am gyfnod hir i gael eu gweld. Ym mis Chwefror 2022, fe welwyd 58% o bobl a fynychodd adran damweiniau ac achosion brys o fewn pedair awr. Y targed cenedlaethol yw 95%. Gwelwyd 75% o gleifion o fewn wyth awr ac 84% o fewn 12 awr. Nid yw adrannau damweiniau ac achosion brys wedi'u cynllunio ar gyfer amseroedd aros mor hir, sy'n golygu bod llawer o gleifion yn treulio oriau yn aros ar gadeiriau neu drolïau cyn cael eu gweld neu eu derbyn.

Mae galwadau am ambiwlans yn cael eu categoreiddio yn ôl y brys angenrheidiol er mwyn ymateb i ofynion pob claf unigol. Mae galwadau am y cyflyrau mwyaf difrifol a rhai sy’n bygwth bywyd yn cael eu dosbarthu fel rhai ‘coch’. Y targed cenedlaethol yw bod angen ymateb i 65% o’r galwadau hyn o fewn wyth munud. Fodd bynnag, nid yw’r targed amser ymateb cenedlaethol ar gyfer galwadau coch wedi’i gyrraedd ers mis Gorffennaf 2020. Ym mis Chwefror 2022, ymatebwyd i 55% o alwadau coch am ambiwlans o fewn wyth munud, gyda 95% o gleifion galwad coch yn derbyn ymateb o fewn 21 munud.

Mae galwadau am gyflyrau nad ydyn nhw’n peryglu bywyd ond sy’n ddifrifol yn cael eu dosbarthu fel ‘ambr 1’ ac ‘ambr 2’. Nid oes amser ymateb targed ar gyfer y galwadau hyn ac mae cleifion yn y categorïau hyn yn gynyddol felly wedi wynebu amseroedd aros hir iawn am ambiwlans. Ym mis Chwefror 2022, ymatebwyd i 95% o alwadau ‘ambr 1’ o fewn pum awr ac ar gyfer galwadau ‘ambr 2’ o fewn 12 awr, gyda 469 o bobl ar draws y ddau gategori yn aros dros 12 awr am ymateb.

Mae argaeledd ambiwlans i ymateb i alwadau brys yn cael ei effeithio’n sylweddol gan oedi wrth drosglwyddo cleifion ar ôl iddyn nhw gyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys sydd eisoes yn orlawn. Ym mis Chwefror 2022, collodd y gwasanaeth ambiwlans 23,214 o oriau oherwydd oedi wrth drosglwyddo, y nifer uchaf a gofnodwyd hyd yma. Mae hynny'n cyfateb i gyfartaledd o 827 awr y dydd. I roi’r ffigurau hyn yn eu cyd-destun, gall rhai criwiau ambiwlans dreulio eu shifft 12 awr gyfan gydag un claf yn aros y tu allan i adran damweiniau ac achosion brys.

Yn ogystal ag oedi wrth drosglwyddo, bydd nifer y galwadau 999 a dderbynnir a'r ffordd y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn defnyddio ei adnoddau hefyd yn effeithio ar amseroedd ymateb ambiwlansys. Yn ystod y pandemig, mae'r gwasanaeth ambiwlans wedi dibynnu ar gefnogaeth gan y fyddin i helpu gyda'i ymatebion brys. Daeth y cymorth hwn i ben ddiwedd mis Mawrth 2022 a disgwylir i amseroedd ymateb ambiwlansys waethygu o ganlyniad.

Mae ein meddalwedd data gofal heb ei drefnu [yn agor mewn ffenest newydd] newydd yn darparu rhagor o wybodaeth am sut mae gwasanaethau'n perfformio drwy dynnu ynghyd ystadegau allweddol eraill o wahanol rannau o'r system gofal heb ei drefnu.

Beth yw'r effaith ar gleifion a staff?

Canlyniad anochel y ffigurau a nodir uchod yw bod llawer o gleifion yn cael profiad gofal heb ei drefnu sy’n is na’r lefel ansawdd y gallent ei ddisgwyl fel gwasanaeth rhesymol. Gwasanaeth y byddai’r staff sy’n gweithio yn y gwasanaethau hynny’n dymuno ei ddarparu.

Amlygodd adolygiad diweddar gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sef, adolygiad o drosglwyddiadau gofal o ran ambiwlansys [yn agor mewn ffenest newydd], y gall oedi wrth drosglwyddo gofal rwystro darparu gofal ymatebol, diogel ac urddasol. Yn gyffredinol, bu tuedd ar i fyny yn y digwyddiadau niweidiol i ddiogelwch cleifion a adroddwyd gan y gwasanaeth ambiwlans yng Nghymru yn ystod y pandemig. Er na arweiniodd y mwyafrif o'r digwyddiadau hyn at unrhyw niwed i gleifion, bu achosion lle cofnodwyd mân niwed, niwed cymedrol neu hyd yn oed trychinebus.

Ydy hyn yn broblem newydd?

Er bod y pandemig yn ddiamau wedi creu set newydd o bwysau ar y gwasanaethau, mae rheoli'r galw am ofal heb ei drefnu wedi bod yn her ers blynyddoedd lawer. Nid oedd y targed amser aros o bedair awr ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys wedi’i gyrraedd am y pedair blynedd oedd yn arwain at y pandemig – mewn gwirionedd, roedd y perfformiad wedi bod yn dirywio’n gyson.

Er bod y gwasanaeth ambiwlans i raddau helaeth yn cyrraedd y targed wyth munud ar gyfer ymateb i alwadau 999 ‘coch’ yn y blynyddoedd cyn y pandemig, roedd amseroedd ymateb ar gyfer galwadau 999 ‘ambr’ wedi bod yn ymestyn ers 2017.

Er nad oedd oedi cyn trosglwyddo ambiwlansys mor amlwg ag y mae ar hyn o bryd, roedd gweld ambiwlansys yn aros y tu allan i adrannau damweiniau ac achosion brys yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf yn ddigwyddiad cyffredin. Adroddwyd bod rhwng 13,000 a 14,000 o oriau wedi’u colli pob mis yn ystod cyfnod y gaeaf cyn y pandemig.

Pa ffactorau sy'n cyfrannu at y pwysau ar y system?

Mae nifer o ffactorau gwahanol yn cyfuno i roi pwysau ar y system:

  • Cynnydd mewn galw
    Yn gynnar yn y pandemig, gwelwyd gostyngiad sydyn mewn presenoldeb i adrannau damweiniau ac achosion brys fel y gwnaeth nifer y galwadau 999 gyda gwelliannau dilynol mewn oedi wrth drosglwyddo. Roedd dymuniad i ryddhau gwelyau hefyd yn golygu bod oedi wrth ryddhau cleifion yn cael ei leihau i sero. Wrth i'r pandemig fynd rhagddo, mae'r galw wedi cynyddu'n raddol fel ei fod yn cyfateb ac yna'n uwch na'r lefelau cyn y pandemig gyda phobl gyda chyflyrau oedd wedi gwaethygu yn ystod y pandemig.
    Mae cleifion sy'n defnyddio'r gwasanaeth ambiwlans brys bellach ag anghenion cynyddol acíwt, wrth i nifer cynyddol a mwy cyson o alwadau cleifion gael eu categoreiddio'n goch h.y. rhai sy'n bygwth bywyd.
    Mae’r gwasanaeth 999 yn derbyn mwy o alwadau gan alwyr sy’n cysylltu’n aml wedi cynyddu’n raddol ac er bod y niferoedd yn parhau i fod yn isel, mae nifer y galwadau a gynhyrchir gan alwyr sy’n cysylltu’n aml yn cynyddu ar gyfradd uwch.

 

  • ‘Llif’ anfoddhaol drwy’r system
    Gall yr anallu i symud cleifion drwy'r system ysbytai arwain at   ganlyniadau sylweddol i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys a throsglwyddiadau ambiwlans. Mae anawsterau wrth ryddhau rhai cleifion o’r ysbyty ar ôl iddyn nhw ddod yn feddygol ffit i adael wedi creu system gofal heb ei drefnu sy’n cael ei hategu’n barhaus gyda staff yr Adran Damweiniau ac Achosion Brys sy’n ei chael hi’n fwyfwy anodd derbyn cleifion oherwydd diffyg gwelyau ysbyty ar eu cyfer nhw. Mae hyn yn ei dro yn golygu nad yw ambiwlansys yn gallu trosglwyddo eu cleifion brys i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.
    Ym mis Tachwedd 2021, amcangyfrifwyd bod 1,400 o gleifion a oedd yn feddygol ffit yn aros mewn gwelyau ysbyty ledled Cymru i gael eu rhyddhau. Am amrywiaeth o resymau bu oedi cyn eu rhyddhau. Y tro diwethaf i nifer yr achosion o oedi wrth ryddhau gynyddu i dros 1,000 oedd yn ôl yn 2005.

 

  • Pobl ddim yn derbyn y gofal sy’n addas ar gyfer eu gofynion nhwMae data a gasglwyd gan gyrff y GIG yn dangos bod cyfran sylweddol o gleifion (44%) sy’n mynd i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu rhyddhau heb unrhyw apwyntiad dilynol. Cyfeirir cyfran bellach (16%) at ddarparwyr gofal iechyd eraill, fel eu meddyg teulu. Mae’r data hwn yn awgrymu nad yw anghenion gofal heb ei drefnu nifer o bobl nad oes angen iddyn nhw ymweld â’r adran damweiniau ac achosion brys. Mae’r rhesymau pam fod y cleifion hyn yn mynychu adrannau damweiniau ac achosion brys yn debygol o fod yn amrywiol. Fe fyddan nhw’n cynnwys anawsterau a ganfyddir neu anawsterau gwirioneddol wrth sicrhau apwyntiad gyda meddyg teulu, dewis personol neu’r farn draddodiadol bod angen iddyn nhw gael eu gweld gan feddyg, a diffyg ymwybyddiaeth o ble y gallan nhw holi am gyngor a thriniaeth amgen.

 

  • Materion yn ymwneud â’r gweithlu
    Mae'r pandemig wedi cael effaith wirioneddol ar y gweithlu. Mae cyfraddau absenoldeb oherwydd salwch yn y GIG a gofal cymdeithasol wedi bod yn uwch nag erioed. Ochr yn ochr â hyn, mae gwasanaethau sylfaenol a chymunedol wedi dod yn llawer mwy bregus wrth i staff ail edrych ar eu gyrfa, eu hamodau gwaith a’u cynlluniau hirdymor (‘ymddiswyddo yn llu [yn agor mewn ffenest newydd]’). Mae’r gallu i ddenu staff newydd hefyd yn mynd yn llawer anoddach. Roedd hyn hefyd wedi arwain at brinder staff digynsail yn y sector cartrefi gofal a gofal cartref - gwasanaethau y mae llawer o’r cleifion o fewn y system gofal heb ei drefnu eu hangen i ddarparu cymorth parhaus y tu hwnt i’w harhosiad yn yr ysbyty i’w cadw’n iach ac atal unrhyw dderbyniadau i’r ysbyty yn y dyfodol.

 

  • Cyfyngiadau COVID-19 
    Yn ogystal â goblygiadau o ran argaeledd staff, mae cyfyngiadau COVID-19 hefyd wedi effeithio ar y capasiti sydd ar gael i gefnogi pobl yn y system gofal heb ei drefnu. Mae’r cynnydd o ran cyfundrefnau rheoli heintiau a gofynion cadw pellter cymdeithasol yn golygu y gall prosesau gymryd mwy o amser. Mae gallu’r adrannau damweiniau ac achosion brys o ran adnoddau staffio er enghraifft hefyd yn fwy cyfyngedig. Ers dechrau'r pandemig, mae gostyngiad dros dro yng ngallu cartrefi gofal i leihau achosion o COVID-19 wedi lleihau'r opsiynau rhyddhau ac wedi llesteirio llif cleifion allan o'r ysbyty.     

Beth sy’n cael ei wneud mewn ymateb i’r heriau hyn?

Yn ystod 2020 a 2021, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn canolbwyntio ei sylw ar drawsnewid mynediad at ofal brys a gofal argyfwng [yn agor mewn ffenest newydd] trwy ddatblygu’r ‘Chwe Nod ar gyfer Gofal Brys ac Argyfwng’. Bydd y rhain yn adeiladu ar y fframwaith polisi gofal heb ei drefnu blaenorol ac yn cael ei lansio'n ffurfiol ym mis Ebrill 2022. Cefnogir y cynllun gan £25 miliwn o gyllid cylchol ynghyd â £6 miliwn a roddwyd eisoes i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn 2021-22 i helpu i hwyluso rhyddhau cleifion o'r ysbyty ar gyfer pobl sydd angen cymorth yn eu cymuned.

Yn ogystal, ar anterth y pandemig, cafodd y rhaglen ymdrin â galwadau 111 ei chyflwyno i bob un o’r byrddau iechyd, gan ddarparu un pwynt mynediad at y gwasanaethau gofal heb ei drefnu. Mewn ymateb i’r ffaith bod y system dan bwysau sylweddol, cynullwyd ‘uwchgynhadledd risg’ ym mis Chwefror 2022 i ystyried y pwysau a wynebir gan wasanaethau gofal heb ei drefnu, a cheisiwyd ‘ailosod y system’ dros gyfnod o bythefnos yn ystod mis Mawrth 2022. Nodwyd camau gweithredu oedd wedi’u hanelu at sicrhau gwelliant o ran rheoli’r galw a gwella’r llif cleifion drwy'r ysbyty.

Rhaid aros i weld i ba raddau y bydd y mentrau hyn a'r fframwaith polisi ar ei newydd wedd yn llwyddo i fynd i'r afael â'r heriau sydd wedi parhau o fewn y maes gofal sydd heb ei drefnu.

Yn ystod 2022, bydd Archwilio Cymru yn cynnal rhaglen waith a fydd yn asesu i ba raddau y mae’r system a’i strwythurau arweinyddiaeth yn ymateb i’r pwysau yn y system heb ei threfnu. Bydd ein gwaith yn cynnwys archwilio’r camau sy’n cael eu cymryd gan gyrff y GIG, llywodraeth leol, a Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol i sicrhau bod cleifion yn cael eu rhyddhau’n brydlon ac yn ddiogel o’r ysbyty er mwyn helpu i wella llif cleifion. Rydym hefyd yn bwriadu adolygu'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran rheoli'r galw am ofal heb ei drefnu drwy helpu cleifion i gael mynediad at wasanaethau sydd fwyaf priodol ar gyfer eu hanghenion gofal heb ei drefnu.

Yr awduron

Mae Anne Beegan yn Rheolwr Archwilio yn y Tîm Iechyd sy’n gyfrifol am nifer o adolygiadau thematig ar gyfer Cymru gyfan yn ogystal â chadw trosolwg o’r rhaglen waith archwilio perfformiad gyda Byrddau Iechyd Hywel Dda, Powys, a Bae Abertawe, ac Iechyd Cyhoeddus Cymru. Cyn symud at Archwilio Cymru yn 1999, roedd yn Rheolwr Llywodraethu Clinigol gydag Ymddiriedolaeth y GIG yn Lloegr.

Mae Fflur Jones yn Arweinydd Archwilio yn y Tîm Iechyd sy’n gyfrifol am ddatblygu’r gwaith gofal heb ei drefnu yn ogystal â bod â throsolwg o ddydd i ddydd o’r rhaglen waith o archwilio perfformiad gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru. Cyn ymuno ag Archwilio Cymru yn 2015, bu’n gweithio fel Swyddog Cyfathrebu Allgymorth yn Senedd Cymru (Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar y pryd).