Rheolwr Prosiect Newid

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

Ydych chi am ein helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol? Nod ein gwaith yw gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i wella hefyd.

Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid Archwilio Cymru y byddwch yn dylanwadu arnynt. Mae hon yn rôl newydd sbon a byddwch yn helpu i wella aliniad prosiectau corfforaethol â'n huchelgeisiau strategol.

Uwch-gydlynydd Stiwdio

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 16:41

A ydych chi’n greadigol gyda dawn dylunio?

Ydych chi o hyd yn chwilio am ddulliau newydd i wella cyflawni gwasanaeth? Efallai mai CHI fydd ein Uwch-gydlynydd Stiwdio nesaf i ymuno â’n tîm cyfathrebu arobryn.

A chithau'n arweinydd creadigol, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith i drawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu. Byddwch yn cydlynu gweithgareddau ein swyddogaethau Cyhoeddi a Dylunio, gan reoli llif gwaith, galw ac ansawdd.