Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Digwyddiad - Pwyllgorau Archwilio: arferion effeithiol ac effaith gadarnhaol

29 Ebrill 2024
  • Bydd ein digwyddiad Arfer Da nesaf yn cael ei gynnal yn Stadiwn Dinas Caerdydd ar Mai 22ain.

    Mae trefniadau llywodraethu da yn rhan hanfodol o'r ffordd mae sefydliadau cyhoeddus yn gweithredu yn effeithiol ac yn darparu gwasanaethau sydd yn rhoi gwerth am arian ar gyfer pobl a chymunedau Cymru.

    Mae Pwyllgorau Archwilio yn gonglfeini er mwyn cefnogi llywodraethu da. Gyda phwysau mawr ar gyllid y sector gyhoeddus ar hyn o bryd ac wrth edrych tua’r dyfodol, mae mwy o angen am arferion effeithiol a chael effaith gadarnhaol. Mae gan Bwyllgorau Archwilio rôl allweddol wrth gyflawni hyn.

    Mae’r digwyddiad yma yn gyfle i rannu profiadau, dysgu a rhwydweithio gyda chyfoedion ar draws y sector gyhoeddus yng Nghymru.

    Mae'r digwyddiad yma ar gyfer:

    Cadeiryddion ac Is-gadeiryddion Pwyllgorau Archwilio
    Prif Weithredwr / Uwch Dîm Rheoli
    Pennaeth Archwilio Mewnol / Rheolwr Archwilio Mewnol
    Pennaeth Cyllid / Swyddog Cyfrifeg
    Pennaeth Adnoddau

     

    Rhaglen

    10.00am             Lluniaeth a Chofrestru

    10.30am             Croeso

    10.35am             Prif Siaradwr Adrian Crompton, Archwilydd Cyffredinol Cymru

    10.40am             Sut allwn ni atal methiant?

    Paul Dossett, Pennaeth Llywodraeth Leol, Grant Thornton

    Paul yw awdur ‘Preventing failure in Local Government’. Bydd yn trafod pwysigrwydd bod â dealltwriaeth glir o achosion cyffredin methiannau, yn ogystal a sut mae’n yn darparu gwybodaeth ddefnyddiol i awdurdodau lleol eraill, cyrff llywodraeth leol ac ar gyfer llywodraeth ganolog er mwyn atal methiannau i’r dyfodol.

    11.20am             Egwyl

    11.30am             Gweithdy: Sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?

    Cyfle i rannu ac i ddysgu gan gyfoedion mewn grwpiau dysgu bychain, gan drafod y cwestiwn ‘sut mae da yn edrych wrth ystyried pwyllgorau archwilio?’

    12.30pm             Cinio

    13.30pm             Gweithdy: Dadansoddiad Gwraidd: Beth yw dadansoddiad gwraidd a sut mae’n gweithio?

    Tîm ymchwil a Datblygu, Archwilio Cymru

    Dadansoddiad Gwraidd yw’r broses o ganfod yr hyn sydd wrth wraidd problemau er mwyn adnabod atebion addas. Bydd ein tîm Ymchwil a Datblygu yn eich tywys trwy astudiaeth achos fel enghraifft (Tramiau Caeredin) fydd yn galluogi’r rhai sydd yn cymryd rhan i ennill profiad o ddefnyddio’r dull Dadansoddi Gwraidd.

    14.40pm             Egwyl

    14.50pm             Trafodaeth Banel

    Martin Veale, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio Chwaraeon Cymru, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Llywodraethiant Cyngor Merthyr Tydfil

    Janet Wademan, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio a Risg Llyfrgell Genedlaethol Cymru

    Hywel John, Cadeirydd Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd

    Mike Usher, Pwyllgor Archwilio, Risg a Sicrwydd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru


    Trafodaeth banel wedi ei gadeirio gan Ann-Marie Harkin, Cyfarwyddwr Gweithredol Gwasanaethau Archwilio, Archwilio Cymru. Bydd ein panel yn adlewyrchu ar brif themâu’r diwrnod gan roi sylw arbennig i’r heriau mawr sydd ar y gorwel. Hefyd, bydd cyfle i ofyn cwestiynau a chynnal trafodaeth.

    15.30pm             Clo

     

    Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da

    I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru.

    Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch.

    Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru