Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Galw am wybodaeth gliriach ynglŷn â gwariant ar newid yn yr hinsawdd

02 Chwefror 2022
  • Mae angen mwy o fanylion ar newid yn yr hinsawdd mewn datganiadau ariannol

    Os yw sefydliad yn sôn am fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ondpeidio â rhoi ei arian lle mae ei geg, gallech ddadlau mai dim ond aer poeth ydyw.

    Rydym wedi bod yn edrych ar wariant cyrff cyhoeddus ar newid yn yr hinsawdd drwy ddarllen eu 'datganiadau ariannol', y dogfennau sy'n disgrifio eu perfformiad ariannol a'u gweithgareddau craidd.

    Roedd yr hyn a ganfuwyd gennym yn ddiddorol iawn – ychydig iawn a ddywed y datganiadau ariannol am newid yn yr hinsawdd.

    Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu nad yw cyrff yn gwario arian ar y mater hollbwysig hwn. Mae'n golygu, os yw cyrff cyhoeddus yn gwario arian ar newid yn yr hinsawdd, nad ydynt yn ei ddisgrifio'n fanwl yn eu datganiadau ariannol. Nid yw'r rheolau presennol yn gofyn iddynt wneud hynny.

    Yr Archwilydd Cyffredinol yn galw am weithredu

    Mae'r Archwilydd Cyffredinol eisoes wedi ymrwymo i raglen waith hirdymor ar newid yn yr hinsawdd ac mae bellach wedi galw am ddatgelu mwy o wybodaeth am weithgareddau newid yn yr hinsawdd yn natganiadau ariannol cyrff cyhoeddus.

    Yn ei brif araith i Gynhadledd Cynaliadwyedd Sector Cyhoeddus ICAEW ym mis Rhagfyr 2021, dywedodd y gallai mwy o wybodaeth am weithgareddau newid yn yr hinsawdd sbarduno buddsoddiad a gwneud penderfyniadau hirdymor. Cydnabu hefyd nad yw'r fframweithiau adrodd presennol yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddus ddweud llawer am newid yn yr hinsawdd.

    Beth y mae'n ofynnol i gyrff adrodd arno yn eu datganiadau ariannol?

    Caiff datgeliadau mewn datganiadau ariannol eu llywio gan ofynion sy'n benodol i'r math o gorff cyhoeddus.

    Caiff datgeliadau llywodraeth leol eu llywio gan God Ymarfer y Sefydliad Siartredig Cyllid Cyhoeddus a Chyfrifyddiaeth (CIPFA). Mae datgeliadau'r cyrff iechyd yng Nghymru yn cael eu llywio gan y Llawlyfr Cyfrifon (MFA), a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru. Mae'r ddau yn cael eu hategu gan y Safonau Adrodd Ariannol Rhyngwladol (IFRS).

    Mae'r Cod Ymarfer ac IFRS ond yn gofyn am ystyried risgiau newid yn yr hinsawdd a risgiau eraill sy'n dod i'r amlwg a allai fod yn sylweddol (perthnasol) i'r cyfrifon.

    Mae gofynion yr MFA ychydig yn fwy penodol, sy'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd gynnwys yn y datganiadau ariannol, adroddiad perfformiad, sy'n cynnwys tri thabl sy'n cwmpasu: allyriadau nwyon tŷ gwydr, gwastraff a defnyddio adnoddau (gan gynnwys defnyddio dŵr).

    Mae'r MFA hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i gyrff iechyd adrodd ar ymaddasu i newid yn yr hinsawdd [agorir mewn ffenestr newydd] ac ar yr effaith y mae eu gweithrediadau'n ei chael ar yr amgylchedd, fel rhan o adroddiadau cynaliadwyedd ehangach (sydd ar wahân i'r datganiadau ariannol).

    Beth a ganfuom yn y datganiadau ariannol?

    Mewn datganiadau llywodraeth leol, ni ganfuom unrhyw ffigurau ariannol yn ymwneud yn uniongyrchol â datgarboneiddio na mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Gellid claddu gwybodaeth o'r fath yn fanwl y datganiadau ar feysydd gwasanaeth ond nid yw'n glir i'r darllenydd.

    Mae datganiadau ariannol y GIG wedi'u strwythuro'n helaeth gan fod pob corff iechyd yn cwblhau templed penodol. Mae'r templed yn cynnwys y tri thabl a ddisgrifir uchod, sy'n darparu gwybodaeth ddiddorol iawn megis allyriadau nwyon tŷ gwydr, ond yn yr un modd â llywodraeth leol nid oedd unrhyw ddatgeliadau ariannol ynghylch faint y mae cyrff iechyd yn gwario ar fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

    Egin gwyrdd?

    Mae trafodaeth ehangach am ddiben datganiadau ariannol wedi dechrau. A ddylai datganiadau ariannol y sector cyhoeddus weithredu fel cipolwg ariannol ar berfformiad blynyddol, neu a ddylent ddarparu gwybodaeth am faterion sy'n bwysig yn gorfforaethol ac o ran ymwybyddiaeth y cyhoedd? Os yw'r olaf yn wir, a oes angen ailystyried gofynion datgelu?

    Mae'r Cyngor Adrodd Ariannol o'r farn y dylai datganiadau ariannol gael mwy o fanylion am y newid yn yr hinsawdd. Mae'r sefydliad sy'n rheoleiddio archwilwyr, cyfrifwyr ac actiwarïaid ac sy'n hyrwyddo tryloywder ac uniondeb, wedi cyhoeddi erthygl [agorir mewn ffenestr newydd] o'r enw 'Time to raise the bar on climate change reporting'. Mae'r erthygl yn dweud bod angen i adroddiadau corfforaethol wella er mwyn bodloni disgwyliadau (...) defnyddwyr ar fater brys newid yn yr hinsawdd.

    Mewn datblygiad calonogol, mae'r Sefydliad IFRS yn sefydlu Bwrdd Safonau Cynaliadwyedd Rhyngwladol (ISSB) ar gyfer pennu safonau adrodd ar gynaliadwyedd. Y gobaith yw y bydd yr ISSB yn cyhoeddi ei ddrafft cyntaf o'r safonau yn gynnar yn 2022.

    Casgliad

    Nid yw datganiadau ariannol cyrff cyhoeddus yng Nghymru yn rhoi llawer i ffwrdd ynghylch faint sy'n cael ei wario i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Y rheswm pennaf am hyn yw nad yw'r rheolau'n ei gwneud yn ofynnol iddynt, a gwneir unrhyw ddatgeliadau ariannol yn wirfoddol. O ystyried y pwysau sydd ar gyrff cyhoeddus a'r anhawster i ganfod gwybodaeth ariannol sy'n gysylltiedig â newid yn yr hinsawdd, hwyrach bod hyn yn ddealladwy. Fodd bynnag, pe bai datganiadau ariannol yn gliriach ynghylch gwariant ar newid yn yr hinsawdd, gallai fod mwy o dryloywder ac atebolrwydd am weithredu ar newid yn yr hinsawdd. Ac mae'r datblygiadau sy'n ymwneud â safonau adrodd cynaliadwyedd newydd yn edrych yn galonogol.

    ,

    Mwy am yr awdur

    Fy enw i yw Ben Hughes, ac rwy'n hyfforddai archwilio ariannol yn Archwilio Cymru. Fel rhan o'r cynllun i hyfforddeion, rwyf wedi cael y cyfle i ymgymryd â secondiad, ac roeddwn yn ddigon ffodus i wneud hyn gyda'n Tîm Astudiaethau Cenedlaethol. Mae'r Tîm Astudiaethau Cenedlaethol yn arwain ar astudiaethau ledled Cymru sy'n archwilio materion sy'n ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru a'i chyrff cyhoeddus cysylltiedig yn defnyddio eu hadnoddau’n economaidd, yn effeithlon ac yn effeithiol.