Nid arolwg ydw i

05 Tachwedd 2020
  • Mae Duncan Mackenzie, Archwilydd Perfformiad, yn dweud mwy wrthym am y galwadau am dystiolaeth y gwnaeth ef a'r tîm Astudiaethau Llywodraeth Leol ymgymryd â hwy yn ddiweddar i hysbysu eu hastudiaethau 2018-19 a pham y maent yn bwysig i'n gwaith.

    Ym myd archwilio, mae barn yn cyfrif. Mae'r ystrydeb yn bodoli mai dim ond mater o ymdrin â rhifau yw archwilio, ond mewn gwirionedd, mae'r ffordd y mae pobl yn meddwl ac yn teimlo yr un mor bwysig i'n gwaith ni, yn enwedig pan fydd yn fater o gynllunio astudiaethau.

    Mae offer amrywiol ar gael inni i'n cynorthwyo i gasglu'r math hwn o wybodaeth, ac un o'r rheiny yw galwad am dystiolaeth. Mae hon yn debyg i arolwg, ond nid yw'n teimlo fel un pan fyddwch yn ei chwblhau (sy'n beth da!). Mae hefyd yn haws ei dylunio a'i hadeiladu nag arolwg, a gall yr holl broses o'r dechrau i'r diwedd fod yn fyrrach. Felly mae pawb yn ennill yn hyn o beth!

    Byddwn yn ei defnyddio pan fydd gennym ddiddordeb mewn barn a safbwyntiau, o'u cyferbynnu ag atebion meintiol, gwybodaeth i arwain ein meddyliau yn hytrach nag atebion sy’n cael eu defnyddio i ffurfio barn derfynol.  Mae’n neilltuol o ddefnyddiol yn ystod cyfnod cynllunio astudiaethau os oes arnoch eisiau mewnbwn i'r gwaith o ddiffinio cwmpas a chylch gorchwyl.

    Clywed gan bobl sy'n gwybod

    Pan fydd arnom eisiau barn cyrff allanol a/neu gydweithwyr (cynghorau, sefydliadau sector cyhoeddus eraill, ac yn y blaen) neu unigolion fel sail i'n gwaith, byddwn yn tueddu i adeiladu arolwg. Ac, mewn llawer o achosion, dyma'r peth iawn i'w wneud.

    Ond, yn rhai achosion, os bydd cwmpas yr arolwg wedi ei ddiffinio'n dynn (efallai'n canolbwyntio ar un pwnc neu broblem yn unig), os mai nifer fechan o gwestiynau sydd arnom eisiau eu gofyn, os yw'r rhestr ddosbarthu neu nifer disgwyliedig yr atebion yn fychan, neu os yw'r amser sydd ar gael yn brin, yna efallai mai galwad am dystiolaeth yw'r dewis i chi.

    Mae dosbarthu galwad am dystiolaeth yn syml hefyd. Mae ei fformat yn benthyg ei hun i ddefnyddio neges e-bost, y gellir ei hanfon ymlaen yn rhwydd i'r person mwyaf addas os ydych yn dosbarthu drwy gysylltiadau allweddol. Mae defnyddio'r e-bost hefyd yn eich galluogi i gynnwys gwybodaeth atodol fydd yn rhoi manylion ynghylch diben yr alwad am dystiolaeth, maes gorchwyl ehangach yr astudiaeth a'n gwaith ni'n gyffredinol.

    Felly, yn gryno, lle bo'r wybodaeth y mae arnoch ei hangen yn addas i alwad am dystiolaeth, bydd proses o'r fath yn fwy anffurfiol nag arolwg, yn gynt ac yn haws i'w drafftio a'i hadeiladu, a (gobeithio!) yn cael derbyniad da gan dderbynwyr.

    Mae'r awydd i wybod mwy yn cynyddu

    Rydyn ni wedi rhyddhau galwadau am dystiolaeth ar nifer o bynciau, gan gynnwys:

    1. Ydy Gwasanaethau Cynllunio yn rhoi gwerth am arian [agorir mewn ffenest newydd];
    2. Mynd i'r afael â thrais yn erbyn merched, cam-drin domestig a thrais rhywiol [agorir mewn ffenest newydd]; a
    3. Gweithredu Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 [agorir mewn ffenest newydd].

    Fe wnaeth y galwadau am dystiolaeth, y gwnaethom eu rhedeg i gefnogi ein hastudiaethau Lywodraeth Leol 2018-19, roi gwybodaeth oedd yn gymorth i ni nodi problemau a phwyntiau o ddiddordeb oedd yn bodoli eisoes, a hysbysu'r gwaith o ddrafftio Dogfen Cychwyn Prosiect yr astudiaeth.  Mae pob un o'r tair astudiaeth yn edrych ar effaith deddfwriaeth newydd ar lywodraeth leol, ac felly mae’r galwadau am dystiolaeth wedi rhoi data ansoddol, dechreuol i ni, y gallwn fesur newidiadau gwasanaeth a barn yn ei erbyn yn ystod yr astudiaethau.

     

    Ynghylch yr awdur

    Mae Duncan yn Archwilydd Perfformiad yn y tîm Astudiaethau Llywodraeth Leol. Mae ar secondiad o Uned Ddata Llywodraeth Cymru, ac mae ganddo ddiddordeb aruthrol mewn lledaenu a defnydd cywir o ddata. Mae’n dyfarnu rygbi a phêl fasged i lefel uwch na be oedd yn gallu chwarae iddi!