Lens wahanol…

05 Tachwedd 2020
  • Bob blwyddyn rydym yn gweithio ar nifer o adroddiadau sy'n canolbwyntio ar feysydd gwahanol o'r sector cyhoeddus. Fel rhan o’n dadansoddiad o'r gwasanaethau hynny, mae cael adborth gan ddefnyddwyr gwasanaethau yn bwysig iawn. Mae'n hanfodol gwybod beth yw profiadau defnyddwyr gwasanaethau, boed dda neu ddrwg. Y ffordd fwyaf cyffredin yr ydym yn gwneud hyn yw drwy ddefnyddio arolygon sy'n gofyn ychydig o gwestiynau byr am faes gwasanaeth penodol. Mae'r wybodaeth a gasglwn o'r arolygon hyn, yn rhoi dealltwriaeth werthfawr inni, na fyddai'n digwydd o siarad â phobl sy'n rhedeg y gwasanaethau hynny, neu drwy edrych ar ddata yn unig.

    Yn yr ychydig flynyddoedd cawsom rai enghreifftiau gwych o ran lle mae'r wybodaeth a gasglwyd gennym o arolygon wedi helpu i lunio ein gwaith. Fel rhan o'n hadroddiad ar Amseroedd Aros y GIG a gyhoeddwyd yn 2014 clywsom am brofiadau dros 400 o bobl a fu ar restrau aros llawdriniaeth ddewisol y GIG ar gyfer llawdriniaeth cataractau; llawdriniaeth i dynnu coden y bustl; a chathetr y galon.  Er bod y rhan fwyaf o bobl a holwyd yn cael eu trin o fewn 26 wythnos a bod y rhan fwyaf yn hapus i aros, cafwyd hefyd bod lleiafrif y bobl a holwyd yn teimlo eu bod yn aros yn rhy hir ac roedd rhai'n dirywio ac yn cael niwed pan oeddent ar restr aros. Roedd y canfyddiadau hyn yn bwysig i ni am eu bod yn tynnu sylw at effaith bywyd go iawn aros am lawdriniaeth.

    Fel rhan o’n hastudiaeth ar wasanaethau hamdden y cyngor holwyd pobl sy'n defnyddio cyfleusterau hamdden y cyngor i ddarganfod beth oedd eu profiad o ansawdd, cost ac argaeledd gwasanaethau hamdden yn eu hardal.  Byddai’n amhosibl i ni fel archwilwyr i ymweld â phob canolfan hamdden leol, ac felly rhoddodd barn pobl ar eu canolfannau hamdden lleol fewnwelediadau amhrisiadwy i ni.  Roedd 63% o'n hymatebwyr arolwg yn teimlo bod gwasanaethau hamdden y cyngor yn werth da am arian. Fodd bynnag, nododd 52% o'n hymatebwyr eu bod yn talu mwy i ddefnyddio'r gwasanaeth o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Dim ond 37% o'n hymatebwyr arolwg a gytunodd fod ansawdd y gwasanaeth hamdden wedi gwella ers mis Ionawr 2014. Amlygodd yr ymatebion hyn yr heriau cynyddol i wasanaethau hamdden cynghorau, o ran sut maent yn cyfathrebu newidiadau gwasanaeth a gwerth ‘ariannol’ y gwasanaethau maent yn eu darparu i'w defnyddwyr.

    Rydym bellach yn dechrau ar adroddiad sy'n ystyried pa mor effeithiol yw cyrff cyhoeddus Cymru wrth ddarparu a chynnal gwasanaethau i gymunedau gwledig. Bydd yr adroddiad yn canolbwyntio ar sut mae cynghorau a chyrff cyhoeddus eraill yn darparu gwasanaethau i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig.  Mae cynghorau'n darparu amrywiaeth eang o wasanaethau mewn cymunedau gwledig gan gynnwys addysg, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth gyhoeddus, llyfrgelloedd a gwasanaethau hamdden.  Yn gynyddol mae cynghorau'n gweithio gyda chyrff cyhoeddus eraill fel gwasanaethau iechyd, tân ac achub a'r heddlu i ddarparu gwasanaethau i gymunedau.

    Os ydych yn byw y tu allan i ddinas ac yn defnyddio gwasanaethau'r cyngor mae angen inni wybod beth yw eich barn ar fyw mewn cymuned wledig ac am y gwasanaethau mae eich cyngor a sefydliadau cyhoeddus eraill yn eu darparu.

    Rydym wedi datblygu arolwg ar-lein byr y gallwch ei lenwi [sy’n agor mewn ffenestr newydd] i roi eich adborth i ni, neu bydd aelodau o staff SAC yn mynd i'r sioeau canlynol yn ystod y mis nesaf, ewch i gael sgwrs ag aelod o'r tîm am eich barn.

    Gallwch ddod o hyd inni yn:

    • Sioe Bro Morgannwg – dydd Mercher 9 Awst
    • Sioe Ynys Môn – dydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Awst

    Ynghylch yr awdur

     

    Mae Gareth Jones yn Archwilydd Perfformiad sy'n gweithio yn nhîm astudiaethau cenedlaethol Llywodraeth Leol. Dechreuodd Gareth ei yrfa broffesiynol fel athro ysgol gynradd ac ers hynny mae wedi gweithio i Gomisiynydd Plant Cymru a'r Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg. Y tu allan i'r gwaith gellir dod o hyd i Gareth ar ei feic neu'n chwarae golff.