Gwneud archwilio yn hygyrch i bawb

05 Tachwedd 2020
  • Dyn gan ddefnyddio ipad sy'n dangos y wefan Swyddfa Archwilio Cymru ar y sgrin

    Read this blog post in English

    Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi gwneud nifer o newidiadau i'n gwefan fel rhan o archwiliad hygyrchedd digidol, a gallaf ddweud nawr bod ein gwefan yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys ar y We 2.0 AA (WCAG) [agorir mewn ffenest newydd].

    Ar ddechrau'r prosiect, rwy'n cofio unwaith imi gyfeirio at fy hun yn y gwaith fel yr hyrwyddwr hygyrchedd – datganiad gyda'm tafod yn fy moch rwyf bellach wedi'i droi yn fathodyn anweledig rwy'n ei wisgo o amgylch y swyddfa!

    Yn ymrwymedig i gydraddoldeb

    Mae llawer o wasanaethau bellach ar gael ar-lein ac mae hyn yn dod yn ateb rhagosodedig ar gyfer darparwyr gwasanaeth, yn enwedig yn y sector cyhoeddus gyda thoriadau chyllideb yn annog newidiadau mawr.

     

    Ond, i rai pobl, gall gwasanaethu digidol greu rhwystrau ac mae'n bwysig ystyried anghenion eich defnyddwyr gwasanaethau a mynd i'r afael ag unrhyw broblemau hygyrchedd.

    Yn y DU yn unig, mae tua 11 miliwn o bobl wedi cofrestru bod ganddynt nam. Mae tua thraean wedi cael problemau wrth geisio defnyddio gwasanaethau [agorir mewn ffenest] neu gael mynediad iddynt.

    Dechreuodd ein taith ar ôl inni gwblhau asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb ar gyfer ein gwefan. Mae'n rhywbeth roedd yn rhaid inni ei wneud mewn perthynas ag Adran 29 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 [agorir mewn ffenest newydd].

    Gall unrhyw un â mynediad i'r rhyngrwyd ymweld â'n gwefan:

    Drwy gyhoeddi ar y rhyngrwyd rydych yn gwahodd pobl i'ch byd. Parchwch hwy pan fyddant yn cyrraedd yno. Sarah Richards, Content Design Centre [agorir mewn ffenest newydd].

    Mae ein gwefan yn darparu gwasanaeth gwybodaeth - mae'n storio bron pob un o'n hadroddiadau archwilio a llawer o fathau eraill o gynnwys a gwybodaeth yn ymwneud â'n gwaith, fel newyddion a digwyddiadau.

     

    Dangosodd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb a wnaethom fod angen inni sicrhau ein bod yn gwneud mwy i ddileu unrhyw rwystrau posibl i bobl.

    Datrys problemau

    Felly beth wnaethom ni?

     

    Y penderfyniad cyntaf a wnaethom oedd gosod BrowseAloud ar ein gwefan. Mae'n darparu llawer o nodweddion cefnogi i amrywiaeth eang o ddefnyddwyr sy'n annhebygol o gael mynediad i'w technoleg gynorthwyol eu hunain. Gallwch ddarllen rhagor am BrowseAloud ar ein datganiad hygyrchedd [agorir mewn ffenest newydd].

    Yna gwnaethom benderfynu archwilio ein gwybodaeth (rydym yn dwli ar archwilio, wedi'r cyfan) gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol [agorir mewn ffenest newydd] er mwyn gwirio ein cydymffurfiaeth â WCAG. Un o brif fanteision yr archwiliad oedd ein bod yn gallu treulio'r diwrnod gyda'r tîm profi a leolir gerllaw yng Nghastell-nedd Port Talbot.

    Roedd hwn yn brofiad mor werthfawr a gwnaeth ein haddysgu am y rhwystrau sy'n peri rhwystredigaeth i lawer o bobl. Roedd hefyd yn ddefnyddiol cael dealltwriaeth o sut mae rhai o'r technolegau cynorthwyol gwahanol yn gweithio.

    Dangosodd ein hadroddiad archwilio ein bod wedi pasio 70% o'r profion. Roeddwn yn teimlo'n eithaf balch bod gennym sgôr weddol uchel ond roeddem yn gwybod y byddai'n cymryd cryn amser i gywiro rhai o'r methiannau.

    Gan weithio'n agos gyda'n Datblygwr TG, treuliais yr ychydig fisoedd nesaf yn blaenoriaethu'r atebion a'r newidiadau o ran pa mor hawdd roeddent a pha mor hir y byddent yn cymryd.

    Roedd rhai o'r atebion - er enghraifft; newid testun hyperddolen - yn newidiadau syml, ond cymerodd amser hir i'w cwblhau yn sgil y nifer mawr o dudalennau ar y wefan. Tra cymerodd rhai o'r atebion mwyaf cymhleth sawl diwrnod er mwyn ymchwilio i'r broblem, rhoi cynnig ar atebion a'u profi, ond dim ond munudau i'w cymhwyso ar y safle byw!

    Gwnaethom gwblhau'r atebion a'r newidiadau yn ystod ac o amgylch ein gwaith arferol ac roeddem ill dau'n dysgu llawer yn y swydd, a ychwanegodd at ein hamserlen ac arweiniodd at ddyddiad cwblhau llawer yn hwyrach na'r hyn roeddem yn ei obeithio.

    Cynnwys hygyrch

    Ynghyd â gwneud newidiadau i'r wefan, roedd rhaid inni fynd i'r afael â hygyrchedd ein cynnwys cyhoeddedig. Mae'n debygol bod hyn wedi cael yr effaith fwyaf arnom fel sefydliad oherwydd bod y newidiadau rydym wedi gorfod gwneud yn effeithio ar ein prosesau ar gyfer awduro, prawfddarllen, dylunio a chyhoeddi.

     

    I helpu'r holl staff sy'n ymwneud â drafftio cynnwys, cynhyrchais ganllawiau, rhoddais gyngor i gydweithwyr a chyfrannu at hyfforddi a thempledi er mwyn sicrhau ein bod yn gyson. Mae'n sicr yn gromln ddysgu i bawb, ond rwyf wedi cael rhai sylwadau cadarnhaol gan staff sy'n cefnogi'r newidiadau a'n hymrwymiadau i gynhwysiant digidol.

    Mae'r canllawiau yn cwmpasu'r pum maes canlynol, sy'n ymwneud â chyhoeddiadau (yn ogystal â chynnwys ar y we):

    • Defnyddio strwythurau pennawd rhesymegol
    • Darparu dewisiadau testun amgen ar gyfer cynnwys gweledol
    • Defnyddio ffont addas ac osgoi llythrennau italig
    • Rhoi cyd-destun i destun hyperddolen (dim mwy o destun cliciwch yma!)
    • Darparu crynodeb testun ar gyfer unrhyw ddata mewn tablau

    Achredu

    A ninnau bellach wedi cael ein hachrediad gan DAC, rwy'n gallu myfyrio ar y gwaith rydym wedi'i gwblhau ac yn teimlo'n falch ein bod wedi dod mor bell â hyn heb fawr o wybodaeth a phrofiad ar y dechrau.

     

    Logo Ganolfan Hygyrchedd Digidol

    Nid yw gwefannau byth yn cael eu gorffen (mewn gwirionedd, rydym yn adolygu ein gwefan yn gyffredinol [agorir mewn ffenest newydd]ar hyn o bryd), ond hyd nes inni chwilio am ailachredu rydym yn gwybod ein bod yn cyrraedd safon a argymhellir ac rydym, o leiaf, wedi cyflawni rhai o'n nodau ar gyfer sicrhau swyddfa archwilio sy'n ddigidol gynhwysol.

    Ynglŷn â’r awdur

    Louise Foster-KeyLouise Foster-Key yw ein swyddog cyfathrebu digidol ac mae wedi bod yn gweithio yn Swyddfa Archwilio Cymru ers bron i 3 mlynedd. Y tu allan i'r gwaith mae’n amgylchynu ei hun â cherddoriaeth, bwyd a chasgliad sylweddol o trainers.