Cyflawni arbedion a chynllunio at y dyfodol

05 Tachwedd 2020
  • Yn y blog canlynol, mae Jeremy Evans, Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru, yn trafod sut y mae cynllunio arbedion yn chwarae rôl hollbwysig o ran cefnogi cydnerthedd ariannol cynghorau, a hynny yn sgil cyhoeddi adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, Cynllunio Arbedion mewn Cynghorau yng Nghymru.

    Mae’n hollbwysig cynllunio arbedion yn effeithiol er mwyn gwarchod arian cyhoeddus yn effeithiol a darparu gwasanaethau cyhoeddus effeithlon – mewn geiriau eraill, mantoli’r gyllideb a pharhau i ddarparu gwasanaethau o safon i’r cyhoedd ar yr un pryd.

    Mae angen i’r cynghorau lunio cynllun ariannol tymor canolig sy’n nodi sut y byddant, ar lefel uchel, yn gweithredu o fewn terfynau’r incwm y byddant yn ei gael, boed gan Lywodraeth Cymru neu o ffynonellau eraill, fel y dreth gyngor. Mae angen i’r cynllun hwn edrych dair i bum mlynedd i’r dyfodol. Fe wnaethom ni ganfod bod pob cyngor wedi paratoi cynllun o’r fath.

    Cau’r bwlch

    Ar ôl pennu’r diffyg yn eu hincwm – y bwlch rhwng yr hyn sydd ganddynt a’r hyn sydd ei angen arnynt – mae angen i’r cynghorau nodi sut y byddant yn cau’r bwlch hwnnw dros gyfnod y cynllun. Fel y byddech yn ei ddisgwyl, mae angen i gynlluniau’r flwyddyn gyfredol fod yn fanwl iawn, ond mae’r cynlluniau ar gyfer y ddwy neu dair blynedd ganlynol yn llai manwl.

     

    Po fwyaf y mae’r cynghorau’n llwyddo i gyflawni eu harbedion, po leiaf yw’r pwysau arnynt i gael hyd i ffrydiau cyllido untro i fantoli’r gyllideb. Mae hefyd yn lleihau’r pwysau ar wasanaethau i barhau i gyflawni’r arbedion sy’n weddill o’r flwyddyn flaenorol a mynd i’r afael, ar yr un pryd, â’r arbedion a bennwyd ar gyfer y flwyddyn gyfredol. Os nad oes rhaid defnyddio tanwariant, cronfeydd wrth gefn neu incwm arall nas cynlluniwyd i fantoli’r gyllideb, gellir defnyddio’r arian mewn ffordd fwy ystyriol – ac fe all helpu’r cynghorau i ariannu mentrau a fydd yn dod â manteision ariannol yn y dyfodol.

    Beth yw nodweddion cynllun arbedion llwyddiannus?

    I lwyddo, rhaid i gynlluniau arbedion fod yn benodol, yn fesuradwy, yn gyraeddadwy, yn realistig ac yn amserol. Fe wnaethom ni ganfod bod tua hanner y cynghorau wedi paratoi cynlluniau o’r fath.

     

    I fod yn dryloyw, mae’n hollbwysig nodi’n glir sut y bydd yr arbedion yn cael eu cyflawni. O wneud hyn, bydd pawb yn deall yr hyn sy’n rhaid digwydd, a bydd modd codi unrhyw bryderon am effaith yr arbedion mewn da bryd.

    Mae’n bwysig nodi gwerthoedd cywir yr arbedion a phennu amserlenni realistig ar eu cyfer. O wneud hyn, bydd yn sicrhau bod meincnod clir ar gael er mwyn dwyn gwasanaethau i gyfrif ac asesu eu cynnydd, gan nodi unrhyw broblemau’n gynnar.

    Wrth i’r pwysau ariannol barhau, mae gallu’r cynghorau i wneud arbedion canrannol cyffredinol ar draws pob gwasanaeth yn lleihau. Mae angen iddynt gyflawni arbedion drwy wneud newidiadau mwy sylfaenol i’r modd y maent yn darparu gwasanaethau neu’r modd y mae’r cynghorau’n gweithredu. Fe wnaethom ni ganfod ei bod yn cymryd mwy o amser i gyflawni arbedion o’r fath oherwydd eu bod yn fwy cymhleth ac oherwydd y gall fod mwy o risg ynghlwm wrthynt. O ran arbedion trawsnewidiol o’r fath, mae mwy o angen sicrhau bod y cynlluniau’n gywir.

    Ymunwch â ni ar gyfer digwyddiad

    Ar 8 Awst, bydd ein tîm y Gyfnewidfa Arfer Da yn cynnal gweminar ar Feithrin Cydnerthedd Ariannol yn y gwasanaethau cyhoeddus. Nod y weminar hon yw rhannu dulliau gweithredu newydd ar gyfer meithrin cydnerthedd ariannol (gan gynnwys enghreifftiau o arfer da) a nodi'r rhwystrau allweddol a sut i'w goresgyn.

     

    Mae'r seminar hon wedi'i hanelu at aelodau a swyddogion yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys:

    • Penaethiaid Gwasanaethau
    • Rheolwyr Gwasanaeth/Gweithredol sy'n gyfrifol am gyflawni gweithredol ar raddfa fawr
    • Deiliaid cyllideb
    • Swyddogion Adran 151 a Rheolwyr Cyllid
    • Aelodau'r Cabinet â chyfrifoldebau am y gyllideb a chynllunio fel rhan o'u portffolio.

    Bydd y gweminar yn cael ei recordio ac ar gael ar YouTube tua 1-2 wythnos ar ôl y gweminar fyw ar 8 Awst. Mae hyn yn galluogi inni ychwanegu is-deitlau yn Gymraeg a Saesneg.

     

    Gallwch gofrestru ar gyfer y gweminar ar ein gwefan neu drwy gysylltu ag aelod o dîm y Gyfnewidfa Arfer Da ar e-bost: arfer.da@archwilio.cymru

    Ynghylch yr awdur

    jeremy-evans-blog-2Mae Jeremy Evans yn Rheolwr Llywodraeth Leol yn Swyddfa Archwilio Cymru, ac mae’n gyfrifol am archwilio perfformiad cynghorau gogledd a gorllewin Cymru. Mae wedi bod yn gweithio i Swyddfa Archwilio Cymru ers dros ddeng mlynedd mewn amryw o swyddi, a bu’n gweithio ym maes llywodraeth leol a llywodraeth ganolog cyn hynny.