Canolfan Iechyd Conwy – dyfal donc a dyr y garreg

05 Tachwedd 2020
  • Cynhaliodd Archwilydd Cyffredinol Cymru gynhadledd ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol yn ddiweddar i drafod sut y dylid monitro ac archwilio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Fel rhan o’r gynhadledd, gofynnwyd i Mark Woods, Uwch Swyddog Cyfathrebu Swyddfa Archwilio Cymru, ddod o hyd i astudiaeth achos a fyddai’n dangos y Ddeddf ar waith. Yma, mae’n sôn am ei brofiad o ddod o hyd i’r astudiaeth achos honno, a’r prif bethau y gall gwasanaethau cyhoeddus Cymru eu dysgu o’r enghraifft hon.

    [youtube https://www.youtube.com/watch?v=F8kH7Jj3Wes&w=560&h=315]

    Yn ôl ym mis Tachwedd, gofynnwyd i mi gofnodi astudiaeth achos ar ffilm i ddangos egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol ar waith. Wrth i ni fynd ati i drefnu’r gynhadledd ar y cyd â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, a oedd newydd ei benodi, daeth prosiect arloesol yng Ngogledd Cymru i’m sylw.

    Bydd Canolfan Iechyd Conwy yn gyfarwydd, rwy’n siŵr, i’r rhai sy’n ymwneud ag iechyd ataliol ond, fel cyfathrebwr ar ran y llywodraeth, roeddwn i’n dechrau â dalen wag. Ar ôl cael fy nghyfeirio at adnoddau ar-lein, es ati ar fyrder i ddysgu cymaint ag y gallwn am y prosiect. Darllenais bopeth y gallwn gael gafael arno, o ddogfennau swyddogol ac astudiaethau achos bach i bytiau o sylwadau mewn cofnodion cyfarfodydd amrywiol yn ymwneud â’r bartneriaeth.

    Yr hyn a ddysgais oedd bod y fenter hon, a sefydlwyd ar y cyd rhwng Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ac Undeb Rygbi Cymru yn cael ei hystyried yn enghraifft wych erbyn hyn o weithio mewn partneriaeth ond cafwyd cryn drafferth argyhoeddi eraill o’i buddion hirdymor ar y dechrau.

    Mae’r syniad ei hun yn syml - gwell atal na gwella. Drwy leoli timau gofal clinigol mewn canolfan hamdden, sef Parc Eirias yng Nghonwy yn yr achos hwn, gallant ddefnyddio rhaglenni ymarfer corff a dulliau adsefydlu yn hytrach nag ymyriadau clinigol costus ac annymunol i wella bywydau. Roedd hyn yn golygu trefnu dosbarthiadau i bobl ag anafiadau ac anhwylderau hirdymor, canolbwyntio ar adsefydlu drwy ymarfer fel grŵp a darparu ar gyfer y rhai sy’n byw â dementia. Roedd y cynllun yn syml ond roedd yn cael effaith ar bobl ag anhwylderau cymhleth.

    Y broblem, fel y sylweddolais yn fuan, oedd mai canlyniadau sy’n bwysig. Oherwydd archwiliadau blynyddol a mesurau perfformiad, mae angen medru dangos canlyniadau’n syth, ac nid oedd y Ganolfan Iechyd yn cyd-fynd â’r ffordd yma o weithio - prosiect tymor hir oedd hwn, ond y canlyniadau tymor byr fyddai’n cael eu harchwilio. Pan es ati i gyfweld John Hardy, arweinydd y prosiect, ar gyfer y ffilm, dywedodd nad oedd y Ganolfan yn cyd-fynd â gofynion y cytundeb partneriaeth; gofynion roedd yn amhosibl iddi eu bodloni.

    Ond drwy ddyfalbarhad y tîm yn Eirias, llwyddodd y Ganolfan i ddwyn y ffrwyth, ryw ddeuddeg mlynedd ar ôl ei hagor. Yr hyn sy’n bwysig yma, yw eu bod yn gwybod o’r adborth a gasglwyd gan y sawl cymerodd rhan yn y cynllun, eu bod wedi taro ar syniad gwych, roeddent yn gwybod y byddai’r gwaith yn dwyn ffrwyth, ond nid oeddent yn gwybod pryd.

    Canolbwyntio ar y dull tymor byr hwn o graffu ar brosiectau wnaethom ni wrth ddangos y ffilm i gynulleidfa o Brif Weithredwyr a swyddogion allweddol gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn y gynhadledd ym mis Tachwedd. I sicrhau y bydd rhagor o brosiectau fel y Ganolfan Iechyd yn cael eu rhoi ar waith, roedd angen i ni ledaenu’r neges fod angen i ni, fel gwasanaethau cyhoeddus, newid ein ffordd o feddwl.

    Fel y dywed John yn y ffilm, nid oedd y tîm yng Nghonwy yn meddwl am y canlyniadau a fyddai i’w gweld ymhen blwyddyn ond, yn hytrach, am y canlyniadau a fyddai i’w gweld ymhen 5, 10, 15 a hyd yn oed 20 mlynedd, ac roeddent yn meddwl yr etifeddiaeth y gellid ei throsglwyddo i’w plant ac i blant eu plant - yr union ddull o feddwl tymor hir mae’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ceisio’i hyrwyddo.

    Oherwydd y rheswm hwn yn unig, mae prosiect y Ganolfan Iechyd yn astudiaeth achos deilwng i wasanaethau cyhoeddus ond, yn bwysicach na hynny, y rheswm y mae wedi taro tant, gan gynnwys ymhlith y rhai nad oeddent yn gyfarwydd â’r prosiect, yw oherwydd yr effaith y mae’n ei chael ar y rhai sy’n defnyddio’r gwasanaeth.

    Dros gyfnod o ddeuddydd yng Ngogledd Cymru, teithiais ar hyd yr A55 (neu ‘Wibffordd y Gogledd’ fel y caiff ei alw gan rai) yn siarad â phobl yr ardal am yr hyn y mae’r Ganolfan yn ei olygu iddyn nhw. Yng Nghanolfan Hamdden Bae Colwyn, siaradais â Bill a Karlyn. Roedd y ddau wedi bod yn gaeth i’w cartrefi oherwydd anafiadau a oedd yn eu gwanychu, ond roedd y ddau’n awr yn mwynhau bywyd ar ôl cymryd rhan mewn cynlluniau amrywiol yn y Ganolfan Iechyd.

    Soniodd Karlyn am y modd y daeth ei hawch am fywyd yn ôl a sut roedd pethau syml fel mynd am baned gyda’i ffrindiau wedi gwella’i bywyd. Dywedodd hefyd ei bod wedi trawsnewid yn gorfforol ar ôl colli pwysau wrth wneud rhagor o ymarfer corff. Roedd yn cofio ymweld â busnes ei gŵr am y tro cyntaf ers blynyddoedd ac nid oedd staff a arferai ei chyfarch wrth ei henw cyntaf yn ei hadnabod i ddechrau gan fod y canlyniadau mor ddramatig.

    Straeon fel hyn sy’n dangos y pŵer gwirioneddol sydd ynghlwm wrth fabwysiadu dulliau mwy hirdymor o weithredu. Oni bai am ddyfalbarhad y tîm yn y Ganolfan, byddai’r prosiect wedi methu ar ôl yr archwiliad a’r cyfarfodydd craffu cyntaf ac nid fyddai Bill, Karlyn a nifer fawr o bobl eraill, wedi gallu elwa ohono.

    Y cymhelliant yw darparu gwasanaethau gwell i bobl Cymru a pha reswm gwell sydd i herio ein ffordd o feddwl? Beth am ddechrau’n awr?

    Cynhaliwyd Cynhadledd Llywio Atebolrwydd yng Nghanolfan y Mileniwm ar 22 Tachwedd. Cynhadledd gydweithredol oedd hon a Sian Lloyd, o’r BBC, oedd y cadeirydd. Y nod oedd canolbwyntio ar broblemau’n ymwneud â thair thema a oedd yn codi o waith y gymuned adolygu allanol, a datrys y problemau hynny. Y tair thema oedd - gweithio gyda’n gilydd, creu gwerth gwirioneddol a gwrando’n well. Gallwch weld canlyniadau’r gynhadledd drwy ddilyn yr hashnod #Shaping16 ar Twitter.

    I ddod o hyd i ddeunydd darllen ychwanegol ar yr astudiaeth achos Canolfan Iechyd Conwy, ewch at blog Cyfnewidfa Arfer Da Swyddfa Archwilio Cymru a darllewch eu testun ‘Cydweithredu a Gweithio ar Draws Ffiniau: Canolfan Gofal Iechyd a Lles Bae Colwyn’

    Yr awdur

    Twitter profile picMark Woods yw Uwch Swyddog Cyfathrebu Swyddfa Archwilio Cymru. Mae gan Mark dros ddeng mlynedd o brofiad ym maes cyfathrebu yn y sector cyhoeddus, a bu’n gweithio am y rhan helaeth o’r cyfnod hwnnw gyda Swyddfa Archwilio Cymru, ar wahân i ddwy flynedd a dreuliodd ar secondiad gydag Academi Cymru o fewn Llywodraeth Cymru. Mae gan Mark ddiddordeb brwd yng nghynnwys y cyfryngau cymdeithasol a chynhyrchu a golygu fideos ac mae’n rhannu ei syniadau ar ei flog ac ar Twitter @MarkStevenWoods.