Cyhoeddiad Cyllid Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd 2007-2013 Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy‟n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae‟n rhy gynnar i asesu‟r effaith gyffredinol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Arian Cyhoeddus ar gyfer Canolfan Cywain, Y Bala Agorodd Canolfan Cywain ym mis Ebrill 2008, ond wynebodd anawsterau yn fuan wedyn cyn cau ym mis Medi 2011. Amcangyfrifwyd mai cost y ganolfan i’r sector cyhoeddus oedd £2.2 miliwn. Fodd bynnag, erbyn i’r Ganolfan gau yn 2011, roedd y gost i’r sector cyhoeddus wedi codi i dros £3.4 miliwn. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Swyddfa Archwilio Cymru Cynllun Blynyddol 2014-15 Paratowyd y Cynllun Blynyddol hwn ar y cyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru dan adran 25(1) o Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan - Adolygiad o Wasanaeth... Mae nyrsys ardal yn chwarae rhan bwysig a hanfodol yn y tîm gofal iechyd sylfaenol a chymunedol, gan ymweld â chleifion yn eu cartrefi eu hunain a darparu gofalu iddynt, a gall hyn gynnwys cartrefi gofal preswyl. Yn ogystal â darparu gofal uniongyrchol i gleifion, mae gan nyrsys ardal hefyd rôl addysgu ac maent yn gweithio gyda chleifion a'u perthnasau i'w helpu i reoli eu cyflwr a'u triniaeth, gan atal pobl rhag cael eu derbyn neu eu haildderbyn i'r ysbyty yn ddiangen. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Arlwyo mewn Ysbytai - Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr... Mae gwasanaethau arlwyo mewn ysbytai yn rhan hanfodol o’r gofal a roddir i gleifion o gofio bod prydau bwyd maethlon, o ansawdd da yn chwarae rhan hollbwysig wrth helpu cleifion i adsefydlu a gwella. Mae gwasanaethau arlwy o effeithiol yn dibynnu ar gamau cadarn i gynllunio a chydgysylltu amrywiaeth o brosesau gan gynnwys cynllunio bwydlenni, caffael, cynhyrchu bwyd a dosbarthu prydau bwyd i wardiau a chleifion. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Adolygiad o Godio Clinigol - Ymddiriedolaeth GIG Felindre Roedd gwaith codio clinigol yn cael ei gwblhau’n brydlon yn y gorffennol, ond mae ystod o wendidau yn y trefniadau a’r broses yn effeithio ar gywirdeb data clinigol wedi’i godio yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre ac mae prinder adnoddau’n golygu bod yr ôl-groniad mewn perthynas â chyfnodau heb eu codio bellach ar gynnydd. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Graddfeydd ffioedd archwilio ac arolygu llywodraeth leol 201... Yn cynnwys graddfeydd ffioedd am archwilio cyfrifon 2013-14 awdurdodau unedol, gwasanaethau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol, comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid, cronfeydd pensiwn a chynghorau tref a chymuned. Gweld mwy
Cyhoeddiad Iechyd a gofal cymdeithasol Rheoli Cyflyrau Cronig yng Nghymru – Diweddariad Mae cyflyrau cronig yn her gynyddol i iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru. Amcangyfrifir bod 800,000 o bobl yn nodi bod ganddynt o leiaf un cyflwr cronig fel diabetes, clefyd y galon, neu glefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint. Mae nifer yr achosion o gyflyrau cronig yn cynyddu gydag oedran, sy’n debygol o roi mwy o bwysau ar y system iechyd wrth i fwy o bobl fyw’n hŷn. Gweld mwy
Cyhoeddiad Cyllid Rhaglen astudiaethau gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredin... Mae’r papur briffio canlynol yn darparu’r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus â diweddariad ar raglen o astudiaethau gwerth am arian yr Archwilydd Cyffredinol. Gweld mwy
Cyhoeddiad Adroddiad Cydraddoldeb 2014 Mae'r adroddiad hwn yn rhoi manylion ynghylch ein cydymffurfiaeth â Deddf Cydraddoldeb 2010 yn ystod y cyfnod 1 Ebrill 2013 i 31 Mawrth 2014. Gweld mwy