Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon 2025-26

Croeso i’n Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn 1 Ebrill 2025 i 31 Mawrth 2026. Ochr yn ochr â’n datganiadau ariannol ac atebolrwydd, mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaed gennym wrth gyflawni’r rhaglenni gwaith archwilio a nodwyd yn ein Cynllun Blynyddol. 

Datganiad gan yr Archwilydd Cyffredinol ar ein perfformiad yn 2025-26

Rydym yn falch o gyflwyno ein Hadroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer 2025-26

Ochr yn ochr â’n datganiadau ariannol ac atebolrwydd, mae’r Adroddiad Blynyddol a’r Cyfrifon hwn yn rhoi crynodeb o’r cynnydd a wnaed gennym wrth gyflawni’r rhaglenni gwaith archwilio a nodwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2025-26.

Yn ystod y cyfnod adrodd, gwnaethom gyflwyno rhaglen gynhwysfawr ac effeithiol o waith archwilio. Mae’n bleser gennyf gyflwyno detholiad o astudiaethau achos yn yr adroddiad hwn i roi blas ar y gwaith a wnaed gennym eleni a’r effaith y mae’r gwaith hwnnw wedi’i chael.

Yr Adroddiad Blynyddol hwn yw'r olaf o fy nghyfnod fel Archwilydd Cyffredinol. Mae wedi bod yn fraint fawr ers 2018 i wasanaethu fel Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Adrian Crompton

Datganiad gan y Cadeirydd ar ein perfformiad yn 2025-26

Roedd 2025-26 yn Archwilio Cymru yn flwyddyn a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar baratoi ar gyfer y dyfodol. Cymerwyd nifer o gamau nodedig, gan gynnwys sefydlu Cyfarwyddiaeth Moderneiddio ac Effaith Archwilio newydd a chyflwyno'r defnydd o offer DA i ategu sut mae ein gwaith yn cael ei gynllunio a'i gyflawni. 

Yn ystod y flwyddyn, roedd risgiau strategol yn cael eu rheoli'n dda, ac roedd y Bwrdd yn fodlon ag ansawdd y wybodaeth reoli a dderbyniodd. Hoffwn dalu teyrnged i staff Archwilio Cymru am eu holl waith caled a'u hymroddiad drwy gydol y flwyddyn.

Dr Ian J Rees Cadeirydd y Bwrdd

Cipolwg ar y flwyddyn

Cyflwynwyd dros 800 o farnau archwilio ar gyfrifon cyrff cyhoeddus

Cyhoeddwyd 16 o allbynnau adroddiadau cenedlaethol o wahanol fathau

Cyhoeddwyd dros 150 o adroddiadau archwilio perfformiad lleol

Cynlluniau grant ardystiedig gwerth bron i £1.5 biliwn

Ebrill 2025

Cyhoeddwyd ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2025-26, yn amlinellu ein blaenoriaethau ar gyfer cyfnod llawn olaf 12 mis o gyfnod Adrian Crompton fel Archwilydd Cyffredinol Cymru.

 

Adroddwyd ar sut mae cyrff cyhoeddus yn meddwl ac yn gweithredu ar gyfer y tymor hir, gyda Gwersi o’n gwaith dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol.

Mai 2025

Daethpwyd i’r casgliad nad oedd Llywodraeth Cymru yn rhoi digon o ystyriaeth i wneud y defnydd gorau o gyfraniadau adrannau at y canlyniadau dymunol o’r Cynllun a strategaeth buddsoddi yn seilwaith Cymru.

 

Cyhoeddodd y cyntaf o gyfres o bedwar adroddiad ar Heriau i'r Sector Diwylliant, yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ariannol yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru ac Amgueddfa Cymru.

Mehefin 2025

Gyda dim ond un eithriad (lle nodwyd problemau gyda'r cyfrifon drafft), cwblhawyd archwiliadau o holl gyfrifon y GIG 2024-25 erbyn y dyddiad cau cynharach sef 30 Mehefin. 

 

Cyhoeddwyd Rhestr wirio ar gyfer Aelodau Bwrdd y GIG i gefnogi adnabod, cyflwyno a monitro Arbedion cost cynaliadwy.

Gorffennaf 2025

Nodwyd cyfleoedd i wella gwerth am arian dulliau cynghorau o ateb y galw am lety dros dro.

 

Lansiwyd templed adrodd archwilio perfformiad newydd, wedi'i gynllunio i gael ffeithiau a ffigurau allweddol mewn ffordd gliriach, gan gynnwys ynghylch gwariant a chanlyniadau.

Awst 2025

Adroddwyd ar wendidau yn y ffordd y rheolodd Llywodraeth Cymru ei chyllid grant ar gyfer Canolfan Forol Porthcawl a fethodd.

 

Lansiwyd oriau cywasgedig yn ffurfiol fel budd-dal sydd ar gael i holl staff Archwilio Cymru, yn dilyn ymarfer peilot llwyddiannus lle nododd cyfranogwyr well llesiant, cymhelliant a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith.

Medi 2025

Cyhoeddwyd adroddiad dilynol ar werthoedd ac ymddygiadau yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

 

Mynegwyd bod byrddau iechyd yng Nghymru yn parhau i brofi heriau ariannol sylweddol a diweddarwyd ein hofferyn data sy'n darparu rhagor o wybodaeth am sefyllfaoedd ariannol cyfredol cyrff y GIG.

Hydref 2025

Cyhoeddwyd ein Hadroddiad Interim, lle gwnaethom adrodd ar gynnydd cynnar o fenter sy'n archwilio'r defnydd posibl o Ddeallusrwydd Artiffisial (AI) er mwyn helpu i wella cynhyrchiant ac effeithlonrwydd ein gwaith.

 

Cyflawnwyd sgôr mynegai ymgysylltu cyffredinol o 73% yn ein harolwg staff blynyddol, wyth pwynt canran yn uwch na meincnod y Gwasanaeth Sifil.

Tachwedd 2025

Adroddwyd ar Ddull Cyfoeth Naturiol Cymru o ddynodi Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig.

 

Rhoddwyd tystiolaeth i Bwyllgor Cyllid y Senedd i gefnogi ei waith craffu ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.

Rhagfyr 2025

Cynhaliwyd dau ddigwyddiad dysgu ar y cyd gan ddod â chynrychiolwyr o bob cwr o'r sector llywodraeth leol ynghyd i Archwilio'r heriau a'r cyfleoedd i gyflwyno cyfrifon llywodraeth leol o ansawdd da ac amserol. 

 

Drwy Gyfres o bodlediadau, cynigiwyd persbectif Adrian Crompton fel yr Archwilydd Cyffredinol sy'n ymadael ar yr heriau a'r cyfleoedd parhaus i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

Ionawr 2026

Gwahoddwyd safbwyntiau ar ein hamcanion cydraddoldeb ar gyfer 2026-2030 i’n helpu i gyflawni’r Ddyletswydd Cydraddoldeb Cyffredinol yn well.

 

Argymhellwyd bod cynghorau'n adolygu eu trefniadau yn erbyn rhestr wirio o agweddau allweddol ar gynllunio cyfalaf cadarn, wedi'i lywio gan ein gwaith archwilio.

Chwefror 2026

Adroddwyd ar y broses o wneud penderfyniadau ar gyfer canolfan ganser newydd Felindre.

 

Cyhoeddwyd diweddariad ar gynnydd tuag at darged tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru.

Mawrth 2026

Adroddwyd ar y graddau y mae Llywodraeth Cymru wedi gweithredu argymhellion archwilio blaenorol wrth Reoli ei Chronfa Integreiddio Rhanbarthol.

 

Lansiwyd adran newydd o'n gwefan o'r enw Mewnwelediadau, lle rydym yn rhannu cynnwys a gynlluniwyd er mwyn helpu'r darllenydd i gael dealltwriaeth ddyfnach o'n gwaith archwilio a'r materion allweddol sy'n wynebu gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

 

Cymeradwyodd y Senedd enwebiad Catherine Mealing-Jones yn Archwilydd Cyffredinol newydd Cymru, a fydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Gorffennaf 2026.

Trosolwg o'n perfformiad

Er mwyn ein helpu i gyflawni ein gweledigaeth tymor hwy, yn ystod y flwyddyn gwnaethom weithredu ar draws blaenoriaethau cynllunio busnes allweddol, wedi'u halinio â'n tri maes ffocws. Fe wnaethom hefyd fesur ein cynnydd yn erbyn cyfres o ddangosyddion perfformiad a thargedau allweddol.

Rydym yn darparu detholiad o enghreifftiau o astudiaethau achos o'r gwaith a gyflawnwyd gennym yn ystod 2025-26 a'r effaith y mae'r gwaith hwnnw wedi'i chael.

Rhaglen archwilio strategol, ddeinamig o ansawdd uchel

Dull wedi’i dargedu ac sy’n cael effaith ar gyfathrebu a dylanwadu

Diwylliant a model gweithredu sy’n ein galluogi i ffynnu

Gweld fersiwn lawn o’r Adroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon

Mae fersiwn lawn ein Hadroddiad Blynyddol a'r Cyfrifon yn cynnwys:

  • Adroddiad Perfformiad - Adolygiad o'n gwaith yn 2025-26, gan gynnwys dadansoddiad o'n cyflawniad a'n perfformiad, a'n sefyllfa ar ddiwedd y flwyddyn.
  • Adroddiad Atebolrwydd - Datganiadau ac adroddiadau allweddol sy'n ein galluogi i fodloni gofynion atebolrwydd a dangos cydymffurfiaeth â llywodraethu corfforaethol da.
  • Datganiadau Ariannol - Y datganiadau ariannol ar gyfer Swyddfa Archwilio Cymru, ochr yn ochr â nodiadau ategol ac esboniadol.

Defnyddiwch y botwm isod i lawrlwytho fersiwn PDF.