Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

£8.7 miliwn o ddeilliannau twyll, gordaliadau a gwallau o ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol yng Nghymru

15 Hydref 2026
  • Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn offeryn gwrth-dwyll allweddol, sy’n paru data’n electronig i helpu cyrff cyhoeddus i osgoi colledion ariannol ac yn dwyn amryw fanteision ehangach, ond mae cyfle o hyd i wella sut y mae rhai’n gwneud gwaith dilynol ar bariadau ac yn cofnodi deilliannau.

    Roedd deilliannau yr adroddwyd arnynt ar gyfer Cymru’n gyfanswm o £8.7 miliwn. Mae hyn £1.6 miliwn yn uwch nag yn ymarfer blaenorol y Fenter Twyll Genedlaethol a dyma’r cyfanswm uchaf yr adroddwyd arno dros y pum ymarfer diwethaf.

    Ers i’r Fenter Twyll Genedlaethol ddechrau ym 1996, mae cyrff yng Nghymru wedi adrodd ar ddeilliannau cronnus o £65.2 miliwn. Daeth y deilliannau mwyaf yr adroddwyd arnynt o baru data ar gyfer disgowntiau person sengl y dreth gyngor, bathodynnau glas, a rhestrau aros ar gyfer tai.

    Dim ond dangosydd yw pariad data, felly mae angen gwaith dilynol cyn bod cyrff yn dod i unrhyw gasgliadau. Gall oedi cyn gwneud gwaith dilynol ar bariadau data leihau effeithiolrwydd yr ymarfer. Gall gweithgarwch sydd o bosibl yn dwyllodrus, ynghyd â thaliadau, disgowntiau, a dyfarniadau anghywir barhau am yn hwy, gan gynyddu colledion a lleihau cyfleoedd i adfer arian.

    Canfuom, ar y cyfan, fod cyrff wedi ymgysylltu’n well ag ymarfer diweddaraf y Fenter Twyll Genedlaethol. Fodd bynnag, ceir meysydd i’w gwella o hyd, gan gynnwys mewn perthynas ag amseroldeb gwaith dilynol a sut y cofnodir gweithgarwch a deilliannau. Daeth rhyw £1.1 miliwn o gyfanswm y deilliannau yr adroddwyd arnynt o gywiriadau yn dilyn ein hadolygiad ni ein hunain.

    Yn ogystal â helpu i adnabod ac atal colled ariannol, mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn dwyn manteision ehangach. Er enghraifft, dywedodd cyrff cyhoeddus wrth Archwilio Cymru ei bod yn helpu i wella prosesau a rheolaethau mewnol, adnabod anghenion hyfforddiant, ac yn codi proffil gwaith atal a chanfod twyll.

    Un o fanteision allweddol ymarfer paru data ar lefel y DU gyfan yw ei fod yn galluogi pariadau rhwng sefydliadau ar draws ffiniau cenedlaethol. Mae data a gyflwynwyd gan gyrff yng Nghymru wedi bod yn gysylltiedig â gwerth £2.1 miliwn o ddeilliannau yr adroddwyd arnynt gan gyrff cyhoeddus mewn rhannau eraill o’r DU hefyd.

    ,
    Mae’r Fenter Twyll Genedlaethol yn offeryn allweddol yn y frwydr i atal a chanfod twyll, gordaliadau, a gwallau sydd, os na chânt eu rhwystro, yn gallu lleihau ymddiriedaeth a hyder y cyhoedd yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol ac arwain at golledion ariannol. Mae sicrhau bod twyllwyr yn cael eu hadnabod, a bod pob punt o arian cyhoeddus yn cael ei gwario’n ddoeth ar wasanaethau sydd o bwys i bobl Cymru gan adlewyrchu’r hyn y mae ganddynt hawl iddo, yn hollbwysig. Dyna pam y byddwn ni’n parhau i ddatblygu ein gwaith ar y Fenter Twyll Genedlaethol gan ein bod ni’n gwybod bod mwy y gallwn ni a chyrff cyhoeddus ei wneud. Catherine Mealing-Jones, Archwilydd Cyffredinol Cymru
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Chwilio am bariad: Canlyniadau diweddaraf Cymru o’r Fenter Twyll Genedlaethol

    Gweld mwy